Ogwen360

Cwcis ‘chocolate chip’

 

Sut i goginio cwcis 'chocolate chip'

Fideo gan Cypcêcs Lois, sy'n dangos sut i goginio cwcis 'chocolate chip' – @Lois' Cupcakes

Posted by DyffrynOgwen360 on Friday, 19 June 2020

 

 

Nesaf ar Ogwen360…

Fideo sy’n dangos sut i greu cwcis ‘chocolate chip’ sydd ar Ogwen360 nesaf. Gwyliwch ar y ffrwd diweddaraf am 6!

Ydach chi isho creu cerdyn cyfarch?

Sut i greu cerdyn cyfarch – gan Karen Roberts

Dyma’r sesiwn nesaf ar gan bobol Dyffryn Ogwen!

Wedi colli’r fideo creu caws?

Dyma hi i wylio eto –

Be sy’n eich gwylltio chi?

Gallwch ddefnyddio eich gwefan fro i godi cwestiynau, neu i rannu eich pryderon am be sy’n digwydd o’ch cwmpas.

Dyna wnaeth Derfel Roberts pan welodd domen o sbwriel wedi’i adael wrth ymyl Lôn Dinas –

Sbwriel

Derfel Roberts

Yn enw pob rheswm – pam?

Straeon bro – mwy nag erthyglau

Nid erthyglau a thestun yn unig yw’r ffordd o ddweud dy stori ar wefan fro.

Beth am ddilyn ôl troed Lois, a rhannu dy stori mewn fideo arbennig fel hon?

Stori Ela Lois

Lowri Mai Williams

Ela Lois sydd wedi creu fideo i esbonio’r profiad o gael tiwmor ar yr ymennydd

Wyddoch chi sut mae creu caws?

Dyma fideo gan gwmni Cosyn Cymru i esbonio’r broses!

Hanes bro – beth nesa?

Diolch yn fawr iawn i Ieuan Wyn am y fideo fach ar hanes tirwedd y Dyffryn.

Pa elfen arall o hanes lleol fyddai’n ddiddorol i chi?

Os oes rhywun yn adnabod pobol leol allai greu, cysylltwch! Dyma’r wefan lle da chi’n creu!

Ogwen360 – eich straeon chi

Sgen ti stori?

Dyma dy le i rannu erthygl, oriel, fideo neu draciau sain!

A dyna wnaeth Patrick Rimes – sgwennu pwt bach am asynnod Eryri, sydd wedi bod yn cludo pecynnau bwyd i deuluoedd!

Rhagor o ddanfoniadau amgen yn y dyffryn

Patrick Rimes

Asynnod Eryri yn danfon pecynnau bwyd i deuluoedd sy’n hunan-ynysu.