calendr360

Heddiw 19 Medi 2024

Gwyl Caseg

17:00–19:00
Ffair Ysgol Abercaseg a Phenybryn Gemau, adloniant, gweithgareddau, bwyd, stondinau, castell neidio, raffl, tombola a mwy. Croeso i bawb o’r gymuned. Dewch yn llu am hwyl a sbri!

Dydd Mawrth 24 Medi 2024

“Dy Werth” Sgwrs a Gweithdy efo Rebecca F Hardy

18:30–20:30 (Am ddim)
Rydym yn gyffrous iawn i fod yn gweithio gyda’r artist lleol Rebecca F Hardy – bydd yn siarad am ei phrofiadau o ddefnyddio’r Gofod Gwneud a sut mae wedi dylanwadu ar ei gwaith a’i chynllun cynnyrch.

Dydd Mercher 25 Medi 2024

Gweithdy Gwnïo

14:00–16:00 (Am ddim)
Gweithdy Gwnïo – Dewch i ddysgu sgiliau gwnïo wrth ail-bwrpasu deunyddiau i greu eitemau newydd e.e scrunchies, bandiau gwallt, bagiau, pyrsiau ac ati.

Dydd Iau 26 Medi 2024

Gweithdai ‘Mincemeat’

13:00 (£2 yr un)
2 gyfle i wneud ‘mincemeat’ a cael phaned a sgwrs tra’n paratoi at y Nadolig.

Dydd Sul 6 Hydref 2024

Diolchgarwch: Mawl & Chawl

11:00
Dathliad o Ddiolchgarwch…canu, stori, rhoi diolch…rhannu bwrdd gyda’n gilydd wedyn – Cawl & Crymbl Cystadleuaeth Cacen Afal! Croeso cynnes i bawb

Dydd Mawrth 22 Hydref 2024

Arddangosfa 50 mlwyddiant Llais Ogwan

10:00 hyd at 16:00, 26 Hydref 2024
Cyfle i weld arddangosfa o ôl-rifynnau’r papur bro lleol dros yr hanner canrif diwethaf yn neuadd Ogwen rhwng 10am a 4pm bob dydd o ddydd Mawrth, 22 Hydref tan ddydd Sadwrn, 26 Hydref 2024.

Dydd Mercher 23 Hydref 2024

Gweithdy Brodwaith

10:00–12:00 (Am ddim)
Gweithdy rhad ac am ddim. Dewch i ddysgu sgiliau sylfaenol brodwaith llaw. Nid oes angen profiad blaenorol – darperir yr holl ddeunyddiau. Cysyllwch efo gofod@ogwen.org i archebu lle.