Rhagor o ddanfoniadau amgen yn y dyffryn

Asynnod Eryri yn danfon pecynnau bwyd i deuluoedd sy’n hunan-ynysu.

Patrick Rimes
gan Patrick Rimes

Yn dilyn llwyddiant Cadwyn Ogwen yn ystod cyfnod y ‘lockdown’, bu grŵp arall yn brysur yn dosbarthu bwyd mewn ffordd ddi-emisiwn yr wythnos diwethaf. 

Mae ‘Carwen’ (y car trydanol cymunedol sy’n cludo archebion Cadwyn Ogwen i dros 50 o gwsmeriaid bob wythnos) gyda cyflymder uchaf o 98 milltir yr awr, a hynny efo dim ond modur 150kW. Ond beth am system gludiant sy’n rhedeg ar wair a dŵr yn unig? 

Dywedwch helô wrth Winnifred a Jenny – dwy o Asynnod Eryri, a fu’n cludo archeb gan siop a chaffi Blas Lôn Las yr holl ffordd I Fynydd Llandygai! Mae’r fideo o’r ddwy asyn dewr, efo bagiau cyfrwy wedi llwytho’n drwm efo pastai, cawl a llysiau, wedi denu mwy na dwy fil o wylwyr yn barod, ac mae’r gwasanaeth wedi profi mor boblogaidd maen nhw’n bwriadu gwneud y peth yn rheolaidd, pob dydd Gwener. Beryg fydd angen carfan mwy o asynnod cyn bo hir…

Edrychwch allan amdanyn nhw ar y lôn rhwng Tregarth a Mynydd pob prynhawn dydd Gwener. Gwyliwch y fideo llawn yma:

Winifred and Jenny, donkeys from Snowdonia Donkeys collected the shopping from Blas Lôn Las Moelyci to deliver to a local resident in Mynydd Llandegai who has been socially isolating since the start of lockdown. ‘It brought me such joy and a great uplift to the spirits. …… Everything arrived in perfect condition, even the soup was still frozen. Very little happens on our road – but it caused quite a stir when they were here ?Thank you all so very much xx’ #socialdistancing #donkeysofinstagram #donkeyoftheday #northwales

Posted by Snowdonia Donkeys on Saturday, 13 June 2020