Sbwriel

Yn enw pob rheswm – pam?

Derfel Roberts
gan Derfel Roberts

YN ENW POB RHESWM! PAM?

A ninnau ynghanol y ‘Clo Mawr’ neu’r llochesu oherwydd y coronafeirws mae llawer o bobl wedi mwynhau cael y cyfle i grwydro ychydig mwy o gwmpas yr ardal. Mae pobl wedi cerdded mwy, seiclo mwy a rhedeg neu jogio mwy.

Mae’r holl bethau yma’n golygu bod llawer o bobl yn teimlo’n well ac yn fwy iach. Dan ni wedi cael amser i fwynhau byd natur a gwrando ar yr adar bach yn canu. Dan ni wedi sylwi ar flodau gwyllt yn y cloddiau a’r coedydd, wedi dotio at dlysni gerddi rhai pobl, ac wedi mwynhau gweld byd natur yn ei ogoniant.

Dychmygwch ein tristwch wrth gerdded ar hyd Lôn Dinas i gyfeiriad Pont Coetmor un diwrnod gan oedi i edrych dros y wal ar Afon Ogwen yn byrlymu rhwng y creigiau ar ei ffordd i lawr am Bont y Pandy. Beth welson ni ond llwyth o sbwriel wedi ei daflu gan rywun neu rywrai heb falio dim am ei effaith ar fyd natur heb sôn am y dolur llygad.

Mae sbwriel fel hwn mewn bagiau plastig neu’n rhydd yn beryg’ bywyd i bob math o anifeiliad ond hefyd mae’n gwenwyno’r amgylchfyd. Roedd y sbwriel lai na 200 llath oddi wrth yr arwydd isod.

Pam, o pam fod rhai pobl mor haerllug o ddifeddwl a hunanol yn yr oes hon? Dyma oes sy’n ceisio rhoi mwy o bwys ar gynnal a chadw byd natur ond eto mae rhai’n mynnu taflu eu sbwriel dros y clawdd i geunant neu dwll.

Ond yr hyn sy’n gwneud y cwbl yn waeth na hyn oll ydy’r ffaith mae cwta rhyw ddwy neu dair milltir sydd raid iddyn nhw fynd â’u sbwriel lle medran nhw gael gwared ag unrhyw beth yn rhad ac am ddim. Oes yna rai pobl heb wybod am safle ailgylchu Cyngor Sir Gwynedd yn Llandygái? Mae’n rhaid mai mewn ceir maen nhw’n cludo’r sbwriel i geunant Lôn Dinas – felly fydden nhw fawr o dro yn mynd i lawr safle’r cyngor a’i roi’n ddiogel mewn biniau mawr pwrpasol.

Felly, os gwelwch chi rywun yn gwagio cynnwys cefn car dros y wal yn Lôn Dinas, neu’n wir mewn unrhyw le answyddogol arall, gwnewch nodyn o rif eu car a ffoniwch yr awdurdodau. Mae gwneud pethau mor anystyriol â thaflu sbwriel i dir o harddwch naturiol yn haeddu pob cosb sydd ar gael.

CODWCH GYWILYDD AR Y BOBL ANYSTYRIOL

 

2 sylw

Arwyn Oliver
Arwyn Oliver

Clywch,clywch.Os byddai modd cael criw at eu gilydd I geisio clirio a chael gwared o’r llanast byddwn yn fodlon helpu.

Derfel Roberts
Derfel Roberts

Dwi’n fodlon mynd ati hi i helpu gyda’r clirio. Oes mwy o wirfoddolwyr?

Mae’r sylwadau wedi cau.