Gwobr bwyd a ffermio’r BBC i Cosyn Cymru

Carrie Rimes yn cipio gwobr cynhyrchydd y flwyddyn

Carwyn
gan Carwyn

Mae Dyffryn Ogwen yn cael cyfnod o lwyddiant ysgubol, gyda busnes caws Cosyn Cymru yn dod i’r brig yng ngwobrau bwyd y BBC neithiwr.

Enillodd Carrie Rimes ar ôl cael ei henwebu yng Ngwobrau Bwyd a Ffermio 2023 y BBC. Yn y rownd derfynol neithiwr ar gyfer busnesau ledled Prydain, enillodd Carrie a Cosyn Cymru wobr yng nghategori’r Cynhyrchydd Bwyd Gorau.

Daw hyn yn dilyn llwyddiant cenedlaethol Manon Williams yng ngwobrau entrepreneur Chwarae Teg a gwobr cyflwyno Lisa Jên yn Bafta Cymru.

Wrth gwrs, nid dyma’r wobr gyntaf i gwmni Cosyn Cymru fel y bydd darllenwyr Ogwen360 yn gwybod.

Os nad ydych chi wedi bod draw i drio rywfaint o gynnyrch arbennig Cosyn, da chi ewch draw i Laethdy Gwyn neu archebu trwy Cadwyn Ogwen.

Llongyfarchiadau mawr i Carrie a phawb sydd ynghlwm â Cosyn Cymru ar y wobr!