Paneli Solar Ychwanegol i’r Clwb Rygbi

Mae rhaglen Heuldro Ynni Ogwen yn helpu adeiladau cymunedol i gynhyrchu ynni adnewyddadwy.

Robyn Morgan Meredydd
gan Robyn Morgan Meredydd

A wnaethoch chi sylwi ar waith yn digwydd ar do Clwb Rygbi Bethesda ychydig cyn gwyliau’r Pasg?

Hwn oedd y gosodiad paneli solar diweddaraf trwy raglen Heuldro Ynni Ogwen. Mae’r paneli newydd bellach yn cyflenwi 8.9kWp ychwanegol o drydan glân a fforddiadwy i’r clwb yn dilyn llwyddiant y system 4kWp a osodwyd yn 2020.

Diolch i’r Clwb Rygbi am eu cydweithrediad parhaus ac i gwmni Anglesey Solar & Electrical am safon uchel eu gwaith.

Mae Ynni Ogwen yn awyddus i gynhyrchu mwy o ynni adnewyddadwy yn lleol er mwyn cynnig trydan rhatach a sicrwydd pris i’r defnyddwyr.

Felly, os ydych yn ymwneud ag adeilad cymunedol ac eisiau gwybod mwy am fanteision rhaglen Heuldro cysylltwch gydag Ynni Ogwen ar ynni@ogwen.org