Gwobr Bafta Cymru i Lisa Jên

Cyflwynydd rhaglen Stori’r Iaith yn cipio’r wobr

Carwyn
gan Carwyn
BAFTA Cymru

NEWPORT, WALES – OCTOBER 15: Lisa Jên poses with the Presenter Award for ‘Stori’r laith’ during the BAFTA Cymru Awards 2023 held at the International Convention Centre Wales on October 15, 2023 in Newport, Wales. (Photo by Hoda Davaine/BAFTA/Getty Images for BAFTA)

Mae’r gantores ac actores amryddawn leol, Lisa Jên wedi dod i’r brig yng ngwobrau Bafta Cymru.

Bydd darllenwyr craff yn cofio am gyfres arbennig ‘Stori’r Iaith’ ar S4C rai misoedd yn ôl ac am hanes y ffaith fod Lisa yn cyflwyno un o’r rhaglenni gan fynd ar drywydd hanes y Gymraeg a’i pherthynas efo’r iaith.

Mae’n braf cael cadarnhau fod y rhaglen, ac yn arbennig rôl Lisa ynddi wedi ei chydnabod yng ngwobrau Bafta Cymru ddoe (15 Hydref). Rhoddwyd y wobr Cyflwynydd i Lisa Jên, ar gyfer Stori’r Iaith.

Am fwy o wybodaeth am y gyfres, tarwch olwg nol ar yr erthygl wreiddiol yma pan ddarlledwyd hi gyntaf.

Llongyfarchiadau mawr i Lisa.