Cylch Mynydd Llandygai yn chwilio am Arweinydd

Swydd yn cael ei hysbysebu tan 28 Ebrill

Carwyn
gan Carwyn

Mae Cylch Meithrin Mynydd Llandygai yn awyddus i benodi Arweinydd a fyddai’n cychwyn yn y rôl a leolir yn Ysgol Bodfeurig ar 3 Mehefin.

“Mae’r cylch meithrin yn chwilio am arweinydd ymroddgar, cydwybodol, brwdfrydig a chyfeillgar i arwain pob agwedd o waith y cylch,” meddai’r mudiad.

Dylai’r Arweinydd “fod yn rhugl yn y Gymraeg neu yn ddysgwr sydd wedi cwblhau lefel Canolradd neu Uwch yn y Gymraeg.”

Gofynnir am gymhwyster blynyddoedd cynnar cydnabyddedig addas ar Lefel 3 neu uwch ynghyd â phrofiad perthnasol i gymryd gofal o gylch.

Am fwy o wybodaeth am y swydd, ewch draw i’r wefan.

Dweud eich dweud