Gwobr entrepreneur y flwyddyn i Manon Williams

Cyd-berchennog cwmni Angladdau Enfys wedi ei chydnabod yng ngwobrau Womenspire mudiad Chwarae Teg

Carwyn
gan Carwyn
Manon

Manon yn derbyn y wobr yng ngwobrau Chwarae Teg

Mae dynes o Fethesda a sefydlodd cwmni angladdau yn ystod y pandemig wedi ennill gwobr genedlaethol yng ngwobrau ‘Womenspire’ mudiad Chwarae Teg.

Fe sefydlodd Manon Llwyd Williams gwmni Angladdau Enfys gyda chyfaill yn ystod y cyfnod clo, ar ôl cefnogi ffrind yn ystod profedigaeth.

Gwobr entrepreneur 2023

“Roedd cychwyn busnes ac adnewyddu adeilad yn ystod cyfnod clo Covid-19 yn heriol ofnadwy, ond gyda chefnogaeth anhygoel fy nheulu a fy mhartner busnes ganwyd Angladdau Enfys Funerals ltd,” meddai Manon.

Gan ennill gwobr ‘Entrepreneur’ yng ngwobrau Womenspire mudiad Chwarae Teg, mae’n amlwg fod yr holl ymdrech yn talu ar ei ganfed.

Braint

Mae Manon a’i phartner busnes yn ymdrechu i gynnal angladdau sy’n adlewyrchiad o bersonoliaethau a chymeriadau eu cleientiaid, gan eu galluogi i ddechrau’r broses o alaru. Mae Manon hefyd yn frwd dros gael pobl i drafod angladdau, colled a galar, yn enwedig â phlant, sy’n aml yn cael eu hanghofio yn y broses.

“Rydym yn gwmni blaengar sy’n cynnig angladdau unigryw, moesegol, gwyrdd a thraddodiadol yng ngogledd Cymru,” meddai.

“Mae cefnogi teuluoedd a gofalu am eu hanwylyd yn fraint ac yn anrhydedd. Allai ddim esbonio pa mor ddiolchgar ydw i i bob teulu sydd yn cerdded trwy ddrws ein cartref angladd fach ac yn ymddiried yn Louise a finnau.”

Sioc llwyr

Roedd clywed ei bod wedi cael eu henwebu yn ddigon i godi calon Manon, ond roedd delal ei bod wedi cyrraedd y rhestr fer, ac yn fwy na hynny wedi ennill prif wobr entrepreneur yn sioc, fel mae’n egluro.

“Roedd yn lyfli clywed mod i wedi cael fy enwebu am wobr Womenspire eleni, heb sôn am wneud y rhestr fer ychydig wythnosau wedyn. Dwi ddim yn gwybod pwy ddaru fy enwebu, ond diolch mawr iddyn nhw am deimlo mod i’n haeddu’r enwebiad.

“Pan gyhoeddo’n nhw mod i wedi ennill yn ystod noson wobrwyo yng Nghaerdydd, roeddwn i mewn sioc llwyr.

“Dwi ddim yn gwneud fy swydd er mwyn cael clod a gwobrau, ond dwi’n falch iawn o allu codi ymwybyddiaeth o fy nghwmni, o’r holl opsiynau gwahanol sydd ar gael ar gyfer angladdau ac o’r angen i drafod marwolaeth ac angladdau gyda’n hanwyliaid.”

Cydnabod llwyddiannau merched

Mae llai o ferched yn cychwyn busnesau na dynion, ac mae gwobr entrepreneur Chwarae Teg yng ngwobrau Womenspire yn ymdrech i ddathlu’r merched fel Manon, sydd wedi llwyddo er yr heriau, gan sefydlu busnes llwyddiannus.

Cynhaliwyd Gwobrau Womenspire Chwarae Teg 2023 neithiwr (12 Hydref) yng Nghaerdydd.

Wedi’i chyflwyno gan Andrea Byrne o ITV Cymru Wales a’r actor a chyflwynydd Cymreig Elin Pavli-Hinde, roedd y seremoni’n rhannu straeon ysbrydoledig a newyddion am holl lwyddiannau’r merched.

Bydd modd gwylio’r seremoni yn ôl ar Facebook heno.