“Dydi’r sefyllfa ddim yn gwneud lles i unrhyw un – mae pawb yn mynd i fod ar eu colled”

Un o gerddorion dawnus y Dyffryn yn trafod effaith Brexit ar y bandiau

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

A hithau yn Ddydd Miwsig Cymru, bu Ogwen360 yn sgwrsio gyda Patrick Rimes o’r grŵp gwerin Calan, i drafod effaith Brexit ar fandiau yng Nghymru.

Yn chwaraewr ffidl hynod ddawnus, mae wedi ennill llu o wobrau cenedlaethol a rhyngwladol yn ystod ei yrfa, tra hefyd wedi helpu i ddosbarthu cynnyrch lleol drwy wasanaeth Cadwyn Ogwen, yn ystod y pandemig.

Mae’r cerddor gyfansoddwr o’r farn bod methiant llywodraeth y Deyrnas Unedig i daro bargen fyddai yn caniatáu teithio heb fisa i’r cyfandir, yn golygu bydd y hi “bron yn amhosib” teithio ar yr un raddfa yn y dyfodol.

Mae Hywel Williams, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Arfon, eisoes wedi cyhuddo Llywodraeth y Deyrnas Unedig o beryglu dyfodol cerddorion Cymru ac atal perfformwyr, bandiau, artistiaid a gweithwyr teithiol proffesiynol o Gymru rhag datblygu cyfleoedd gyrfa.

Er hynny, mae Patrick o’r farn nad yw’n sefyllfa’n gynaliadwy ac mae’n disgwyl gweld y Llywodraeth yn gwneud tro pedol ar y mater dros y misoedd nesaf.

“Dioddef yn ofnadwy”

“Mae’r pandemig mewn un ffordd wedi creu smoke screen eithaf handi i’r Llywodraeth a fydda ni ddim yn gwybod am dipyn o flynyddoedd be ydi scale y niwed sydd yn mynd i ddigwydd,” meddai Patrick.

“Ond os nad ydyn nhw’n llwyddo i sortio’r smonach yma hefo’r work permits – does yna ddim dwywaith bod y sector cerddoriaeth byw – o leiaf – yn mynd i ddioddef yn ofnadwy…

“Dydi o ddim yn mynd i amharu ar yr EU hanner gymaint ac mae o’n mynd i amharu arno ni.”

“Bron yn amhosib”

“I bobl sy’n byw mewn gwledydd bach, mae teithio yn rhan hollol allweddol o’r diwydiant, ac weithiau dydi o ddim yn neis,” eglura Patrick, “mae o’n waith caled, mae’n rhan o be’r yda ni’n gorfod gwneud i gynnal y peth a chadw ni fynd.

“Dwi’n siŵr fod pobol yn ymwybodol faint o strach ydi o a faint o egni mae’n cymryd i ymgeisio am fisa.

“Mae o’n ddyddiau o waith ac mae o’n ddrud, so ti’n meddwl bod chdi’n gorfod gwneud hynny, pump, chwe, saith gwaith drosodd, mae’n gwneud yn holl beth bron yn amhosib.”

Dywedodd y byddai hynny’n golygu ail-strwythuro teithiau tramor gyda’i fand Calan, er mwyn osgoi croesi cymaint o ffiniau â phosib.

“Hwyrech fydda ni’n targedu neuaddau llai,” meddai, “ac yn hytrach bod ni’n mynd o ddinas i ddinas, bod ni’n mynd o bentref i bentref i bentref i bentref.”

“Dydi’r sefyllfa ddim yn gwneud lles i unrhyw un” 

“Dydw i ddim yn impressed iawn hefo’r ffordd mae’r Llywodraeth wedi delio hefo hyn,” meddai Patrick, “dydi’r sefyllfa ddim yn gwneud lles i unrhyw un – mae pawb yn mynd i fod ar eu colled.

“Dydi o ddim yn gynaliadwy a dwi’n meddwl nawn ni weld rhywfaint o back tracio yn eithaf buan.”

Ei obaith yw y bydd hynny’n digwydd cyn diwedd y pandemig fel bod modd ddychwelyd i waith cyn gynted â phosib.

Cadwyn Ogwen yn ymestyn eu gorwelion gyda chymorth Zip World

Gohebydd Golwg360

Zip World yn cefnogi’r fenter ac yn awyddus i wneud “lot mwy”