Llais Ogwan mis Ebrill yn y siopau

Rhifyn mis Ebrill o bapur bro ar werth – mynnwch eich copi.

Carwyn
gan Carwyn
438874616_7563020340424288

Hanes ymgyrch yn ardal Pentir i sicrhau dyfodol tafarn y Faenol a gwrthwynebu cynlluniau ar gyfer mwy o dai gwyliau sy’n cael lle ar dudalen flaen rhifyn Ebrill o Lais Ogwan.

Mae mwy o’r hanes yma ac amrywiaeth o newyddion lleol i’w weld yng ngholofnau pentrefi’r ardal yng ngweddill tudalennau’r Llais hefyd wrth gwrs, diolch i gyfraniadau gan gyfranwyr lleol. Ceir gwybodaeth am ddigwyddiadau lleol a Dyddiadur y Dyffryn.

Ceir sylw hefyd i lwyddiant Morgan Griffith a’i waith sydd i’w weld mewn arddangosfa yn Storiel, ynghyd a hanes perchennog newydd i siop Barbwr Ogwen ar y Stryd Fawr ym Methesda.

Gellir darllen am sgyrsiau hynod ddifyr o Gymdeithasau Hanes o’r ardal, adroddiadau o sawl ysgol a llwyddiannau’r disgyblion, a’r diweddaraf o gapeli ac eglwysi Dyffryn Ogwen.

Wrth gwrs, mae colofnau rheolaidd yn cael digon o sylw: ‘Nyth y Gân’, ‘Iaith Pesda’, ‘Natur o’n Cwmpas’, Hanes Rhes Ogwen, Colofn Côr y Penrhyn, ‘Gair neu ddau’ ac wrth gwrs y croesair a’r chwilair.

Mynnwch eich copi – bargen am 70 ceiniog.

Dweud eich dweud