Trafnidiaeth Gymunedol y Dyffryn Caredig yn chwa o awyr iach

Trigolyn Dyffryn Ogwen yn cael chwa o awyr iach ar ôl 10 mlynedd

Menna Thomas
gan Menna Thomas
Christine-Jones

Mae Linda Brown, Cyfaill Cymunedol Partneriaeth Ogwen wedi bod yn ymweld â Christine Iris Jones sy’n byw yn Rachub, Bethesda, yn rheolaidd ers dros flwyddyn. Mae Christine wedi gwerthfawrogi’r ymweliadau cyson a’r sgyrsiau gan nad oedd hi’n bosib iddi fynd allan o’r tŷ o gwbwl, dim ond i fynd mewn ambiwlans o dro i dro i apwyntiad yn Ysbyty Gwynedd.

Ar ôl cysylltu hefo’r Gymdeithas Tai gosodwyd ramp tu allan i ddrws ffrynt y tŷ a oedd yn galluogi i Christine fynd allan yn ei chadair olwyn am y tro cyntaf ers deg mlynedd. Golygodd hynny y byddai Christine o’r diwedd yn cael mynd allan am dro a gweld rhywbeth gwahanol yn hytrach na phedair wal ei chartref. Does dim geiriau i ddisgrifio hapusrwydd Christine pan welodd hi fod hi’n bosib iddi o’r diwedd gael mynd allan am dro ar ôl blynyddoedd lawer.

Trefnwyd dyddiad addas i fynd â Christine allan, ac aethpwyd i Pringles, Llanfairpwll. Cafodd Christine bleser mawr a chyfle i siopa a chael paned a chacen yn y caffi yno. ‘Roedd hi wrth ei bodd cael y rhyddid i wneud hyn – roedd wir wedi cael modd i fyw.

Mae Christine yn sicr wedi codi ei chalon yn fawr iawn ac yn ddiolchgar iawn i gynllun trafnidiaeth Y Dyffryn Caredig, Partneriaeth Ogwen a gwaith ein Cyfaill Cymunedol.

Mae Christine yn edrych ymlaen yn fawr iawn i gael diwrnod allan eto yn fuan. Os bydd hi’n dywydd braf mi fydd yn bosib iddi gael mynd i Lanfairfechan a gweld y môr -ac yna cael paned neu ginio yn y caffi yno. Mae hi’n ddiolchgar iawn i’r Bartneriaeth am wneud hyn yn bosib a gwireddu ei breuddwyd o gael mynd allan i’r awyr iach a chael cyfle i gyfarfod pobl a chael sgwrs.

Dweud eich dweud