Cadwyn Ogwen yn ymestyn eu gorwelion gyda chymorth Zip World

Zip World yn cefnogi’r fenter ac yn awyddus i wneud “lot mwy”

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae Cadwyn Ogwen, wedi bod yn darparu gwasanaeth allweddol i’r gymuned ers y Gwanwyn.

Mae’r fenter, sy’n cael ei chynnal gan Bartneriaeth Ogwen, yn dosbarthu cynnyrch lleol fel bocsys bwyd, caws, pysgod, madarch a mwy i gartrefi’r ardal gan ddefnyddio cerbyd trydan cymunedol.

Wrth i’r galw gynyddu, daw’r angen i ehangu ac i sicrhau eu darpariaeth, mae Cadwyn Ogwen wedi cael benthyg cerbyd pwrpasol – fan drydan – gan Zip World.

Er bod hynny wedi ei groesawu yn lleol, mae swyddog marchnata Zip World, Laura Owens wedi cydnabod bod ganddynt le i wella o ran cefnogi mentrau cymunedau lleol ym Methesda, Blaenau Ffestiniog a Betws y Coed.

“Chwarae teg i Zip World – maen nhw wedi achub ni”

“Mae’r cynllun wedi datblygu i bwynt lle roedden ni angen cerbyd lot mwy i wneud o’n feasible,” meddai swyddog datblygu Cadwyn Ogwen, Patrick Rimes.

“Chwarae teg i Zip World – maen nhw wedi achub, ni wrth roi benthyg y fan drydan yma i ni!”

Eglurodd bod sicrhau bod y fenter yn hollol wyrdd yn rhan fawr o’u gweledigaeth o’r cychwyn cyntaf.

“Mi oedden ni’n angerddol o ddefnyddio car trydan o’r cychwyn, felly rŵan bod ni wedi cael gafael ar fan, sydd hefyd yn rhedeg yn llwyr ar drydan, mae hynny’n grêt i ni.”

Lucinda yn y fan newydd!

“Clic a Chasglu”

Yn ogystal â’r gwasanaeth danfon, mae Cadwyn Ogwen yn ymestyn eu gorwelion gan gynnig gwasanaeth ‘Clic a Chasglu’ o leoliad hwylus, Ffarm Moelyci.

“Mae’r pwynt casglu yn berffaith i’r sawl sy’n teithio adre o’r gwaith, ac yn well fyth, mae’n rhannu safle efo caffi Blas Lôn Las, felly mae ’na gyfle goffi a chacen i fynd efo’ch siopa,” meddai Patrick Rimes.

“Dangosodd pobl yr ardal ysbryd cymunedol anhygoel – yn cefnogi eu busnesau lleol drwy amnewid eu basgedi archfarchnad am y siop Cadwyn ar-lein, a derbyn danfoniadau wythnosol yng nghar trydan cymunedol Bethesda.”

“Helpu lle dani’n gallu”

Wrth drafod rôl y cwmni yn y datblygiad, dywedodd swyddog marchnata Zip World, Laura Owens:

“Dani di bod yn siarad hefo nhw ers y lockdown cyntaf. Oedd ganddo ni fwyd o’r bwyty yn Penrhyn Quarry a’r un yn Betws a oedden ni isio reid y bwyd i rywun fel foodbanks yn yr ardal. So, ers hynny dani wedi bod yn siarad hefo nhw ac yn helpu lle yr ydym yn gallu.”

“Nawr, oherwydd bod ni hefo’r lockdown arall, mi oedd gyno ni fwy o fwyd i reid iddyn nhw a hefyd oedden nhw’n gofyn os fysa nhw’n cael gweithio hefo ni, hefo un o’r fans.”

“Oherwydd dani ddim mor brysur ag oedden ni yn yr haf – mae ganddo ni’r amser i reid o iddyn nhw.”

“Mi ydyn ni’n meddwl bod ‘na lot mwy gallwn ei wneud.”

Er hynny, mae’r cwmni wedi cydnabod bod ganddynt le i wella o ran cefnogi mentrau cymunedol lleol.

“Rydym isio cychwyn gweithio hefo nhw fwy,” meddai Laura Owen, “dydyn ni ddim yn siŵr sut fydd hynny yn edrych ond mae’r gymuned leol yn bwysig i ni ac mi ydyn ni’n meddwl bod ‘na lot mwy fyse ni’n gallu gwneud.”

“Mae o’n rhywbeth yr ydym yn edrych ar fel cwmni – i weithio mwy hefo pethau lleol fel Partneriaeth Ogwen.”

“Pan yr ydych yn tyfu fel cwmni, mae o’n dda i neud pethau bach i’r gymuned.”

“Os rydyn ni’n neud yn dda, mae’r gymuned yn neud yn dda.”

Zip World

Archebu drwy Cadwyn Ogwen

Mae modd archebu drwy wefan Cadwyn Ogwen ac mae pob danfoniad a chasgliad yn digwydd prynhawn dydd Iau, rhwng 1 ac 6 o’r gloch!