Y stori orau ar Ogwen360 yn 2020: dewis y bobol

Cyfle i bobol Dyffryn Ogwen bleidleisio am eich hoff stori leol

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Mewn blwyddyn lle mae golygon cymaint ohonom wedi troi at ein milltir sgwâr, rydym wedi gweld cynnydd anhygoel yn y defnydd o’r gwefannau bro. Mae’r 7 gwasanaeth lleol-iawn wedi bod yn ffynhonnell amhrisiadwy o straeon, gwybodaeth a difyrrwch i gymaint o bobol eleni. Maent hefyd wedi bod yn gofnod o sut fu bywyd pobol a’n cymunedau yn ystod un o’r blynyddoedd mwyaf rhyfedd mewn cof.

Er gwaetha’r Covid – y canslo a’r diffyg dod ynghyd arferol – cyhoeddwyd dros 1230 o straeon bro yn 2020, ac erbyn hyn mae dros 430 o bobol leol wedi cyhoeddi stori ar eu platfform lleol.

I ddathlu hynny, bydd Bro360 yn cynnal seremoni wobrwyo ym mis Ionawr, lle byddwn yn cyhoeddi eich hoff straeon chi ar bob gwefan fro!

Rhestr fer Ogwen360

Dyma’r 6 stori fwyaf poblogaidd (yn ôl yr ystadegau) ar Ogwen360 eleni. Porwch trwyddynt, a phleidleisiwch trwy bwyso’r botwm ’diolch’ ar waelod eich hoff stori.

  • Beiciau trydan – ffordd i fod yn hapusach ac yn wyrddach – Tom Simone
9Z5A7348-Edit-2

Beiciau trydan – ffordd i fod yn hapusach ac yn wyrddach!

Tom Simone

Dywed cynghorydd o Fethesda fod ei beic trydan yn ‘game changer’ ac yn eu gweld yn rhan allweddol o ddyfodol hapusach a gwyrddach.

 

  • Beicio yn hytrach na chlybio? – Beca Nia  
Beicio yn hytrach na ‘chlybio’...?

Beicio yn hytrach na ‘chlybio’…?

Beca Nia

y flaengaredd o feicio’n feunyddiol

 

  • Rhaid gwarchod enwau lleoedd – Ieuan Wyn  

Rhaid Gwarchod Enwau Lleoedd

Ieuan Wyn

Sut mae gwarchod enwau lleoedd lleol?

 

  • Sut ‘dyn ni fel myfyrwyr yn teimlo… go iawn – Beca Nia 
Saran, Mali, Beca, Beca a Medi

Sut ‘dyn ni fel myfyrwyr yn teimlo… go iawn..

Beca Nia

Ymateb ychydig o fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd i gynllun profi newydd y Llywodraeth cyn y Nadolig.

 

 

  • Ymwelydd arbennig nos Lun – Carwyn Meredydd 

Ymwelydd arbennig nos Lun

Carwyn

Pryd mae Siôn Corn yn cyrraedd?

 

Felly, dyna’r 6 ddaeth i’r brig o ran yr ystadegau. Ond pa un sy’n dod i’r brig i chi?

Pleidleisiwch, trwy…

  1. mewngofnodi neu ymuno â’r wefan hon (creu cyfrif)
  2. mynd i’ch hoff stori
  3. pwyso’r botwm ’diolch’ ar waelod y stori honno (neu hoffi’r fideo Facebook os dyna eich dewis)

Bydd eich hoff stori ar Ogwen360 yn cael ei chyhoeddi mewn seremoni wobrwyo arbennig ddiwedd mis Ionawr.