“Maen nhw angen rhyddid, cymdeithasu ac ychydig o normalrwydd – dyna maen nhw angen”

Barn rhieni’r Dyffryn ar gynnal gwersi yn yr ysgol adeg gwyliau’r haf

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360
Llywodraeth Cymru

Mae Ogwen360 wedi bod yn holi barn rhieni lleol y Dyffryn ynglŷn â’r syniad o gynnal gwersi yn yr ysgol am bythefnos adeg gwyliau’r haf.

Y nod fyddai rhoi’r cyfle i ddisgyblion ddal fyny efo’r gwaith wedi blwyddyn bytiog o ran gwersi ar-lein.

Er bod y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams wedi cyhoeddi’r wythnos diwethaf fod plant ifancaf ysgolion cynradd Cymru yn dychwelyd i’r dosbarth ar ôl yr hanner tymor, mae’r dysgu o bell yn parhau i’r disgyblion hŷn.

Felly ai ymestyn y tymor yw’r ateb? Fydd pythefnos ychwanegol yn gwneud yn iawn am golli blwyddyn o addysg? Ai addysg yw’r brif flaenoriaeth?

Dyma farn dau riant…!

“Neith pawb ddal i fyny yn eu hamser eu hunain”

“Dw i yn erbyn o fel rhiant,” meddai Angharad Thomas Roberts, “mae plant yn gyffredinol wedi bod o dan gymaint o straen dros y cyfnod yma.

“Dim bai ar athrawon – cyfarwyddyd mae athrawon yn cael – ond mae’r pwysau wedi bod yn tyff, felly dwi’n anghytuno hefo’r syniad.

“Os oes yna bwyslais ar ffitrwydd ac iechyd meddwl – bod nhw’n cael cymdeithasu, cael gwneud chwaraeon a bod nhw’n cael cymysgu – fyswn i for it – achos dyna maen nhw angen.

“Dydyn nhw ddim angen pwysau gwaith, dydyn nhw ddim angen dal i fyny – neith pawb ddal i fyny yn eu hamser eu hunain – dydi o ddim am hynny.

“Maen nhw angen rhyddid, cymdeithasu ac ychydig o normalrwydd – dyna maen nhw angen.”

Ychwanegodd fod gwyliau’r haf yn gyfnod i blant a rhieni gael ymlacio a mwynhau’r amser gyda’i gilydd, heb orfod poeni am waith ysgol.

“Hollol hollol annheg”

“Dw i’n meddwl y byddai’n hollol, hollol annheg disgwyl i bobl sy’n gweithio mewn ysgol i gario ymlaen yn ystod y gwyliau,” meddai rhiant arall, oedd am aros yn anhysbys.

“Hefyd, fyswn i’n cwestiynu’r ffaith o sgwario hynny hefo’r undebau a thâl. 

“Fyddai’n andros o gost ychwanegol os ydyn nhw yn bwriadu gwneud hynny a heb feddwl am yr elfen honno – mae o’n hollol annheg.

“O ran y plant, dydw i ddim yn meddwl bod o gymaint o broblem hefo plant ysgol gynradd. Ond o ran TGAU a Lefel A – mae angen lot fwy o waith arnyn nhw.

“Felly fyswn i’n gyrru fy mhlant i mewn yn llwyr hefo nhw.”

Ychwanegodd bod hi’n andros o her i rieni i gael y balans rhwng gweithio llawn amser a goruchwylio gwaith ysgol y plant.

“Mae’r euogrwydd yn lladd rhywun,” meddai, “mae o’n really torri chdi.”