Sut mae diogelu enwau lleoedd â’u cyfoeth rhyfeddol – rhan mor allweddol o’n hetifeddiaeth ddiwylliannol genedlaethol? Bu sawl ymdrech yn ystod y deugain mlynedd diwethaf, ac yma yn ein hardal ni fe lwyddwyd i gael gwared â ‘Nameless Cwm’ (uwchlaw Cwm Idwal) a ‘Nameless Peak’ (Nant y Benglog) o fapiau a gorseddu’r enwau Cwm Cneifion a’r Foelgoch. Fodd bynnag, mae disodli enwau Cymraeg yn mynd rhagddo. Dyma rai enghreifftiau o’r tueddiad gwarthus hwn yn ardal y Carneddau a’r Glyderau.
Aeth Coed Cerrig y Frân uwchlaw Blaen y Nant ym mhen uchaf Nant Ffrancon yn ‘Mushroom Garden’, ac aeth Craig Cwrwgl uwchlaw’r Marchlyn Mawr yn ‘Pillar of Elidyr’. Disodlwyd Llwybr Gwregys ar ochr Tryfan gan ‘Heather Terrace Path’, a Rhaeadr y Benglog islaw Llyn Ogwen gan ‘Ogwen Falls’. Bellach ‘Australia Lake’ ydy Llyn Bochlwyd yn rhai o gyhoeddiadau Saesneg y dringwyr a’r cerddwyr, a chyfeirir at Glogwyn y Tarw yng ngheg Cwm Idwal fel ‘Gribin Facet’. Yr enw ar y draethell raean ar lan Llyn Idwal ydy’r Ro, ond erbyn hyn mae’r enw ‘Idwal Beach’ wedi ymddangos. Mae Creigiau Cwm Graeanog rhwng Carnedd y Filiast a Mynydd Perfedd uwchlaw Nant Ffrancon wedi cael yr enw ‘Atlantic Slabs’, a gelwir crognant Clogwyn y Geifr yng Nghwm Idwal yn ‘Devil’s Appendix’. Mae’r enwau Saesneg yn mynd ar wefannau ac i lyfrynnau a llyfrau ac yn cael eu defnyddio mewn papurau newydd a chylchgronau ac ar y cyfryngau darlledu.
Dewch inni fod yn gwbl glir ar y mater hwn. Mae llurgunio enwau lleoedd Cymraeg neu eu disodli gan enwau Saesneg yn treisio’n hunaniaeth ni fel cenedl. Mae angen dybryd am ddeddf i warchod enwau lleoedd hanesyddol. Cafwyd ymdrech anrhydeddus yn lled ddiweddar i gael deddf o’r fath ond bu’n aflwyddiannus, ac mae gofyn inni ddwysáu ein hymdrechion i geisio goleuo gwleidyddion a gweision sifil ynghylch pwysigrwydd gwarchod enwau lleoedd.
Dyma awgrymiadau ar sut y gallem warchod ein henwau lleoedd:
- Galw am ddeddfwriaeth briodol gan Senedd Cymru fel bod enwau lleoedd hanesyddol yn cael eu gwarchod yn statudol.
- Galw ar Swyddfa’r Arolwg Ordnans a chynhyrchwyr mapiau eraill i:
a) nodi enw Cymraeg gwreiddiol yn unig lle bo enw Saesneg ar hyn o bryd;
b) nodi’r enw Cymraeg yn unig pan fo enw Cymraeg ac enw Saesneg;
c) cynnwys enwau lleoedd Cymraeg sydd heb fod ar y mapiau ar hyn o bryd. - Tynnu sylw Cyngor Mynydda Prydain a chyrff eraill at yr hyn sy’n digwydd, a galw am warchod enwau lleoedd y mynydd-dir gan sicrhau bod enwau Cymraeg ar ddringfeydd.
- Sicrhau bod cronfeydd data’r cynghorau sir yn gyflawn ac yn gywir ac yn defnyddio ffurfiau Cymraeg yn unig, a’i gwneud hi’n ofynnol i gyrff eraill ddefnyddio’r ffurfiau hynny, gan gynnwys cyhoeddiadau a’r cyfryngau darlledu.
- Pan fo datblygiadau newydd megis codi tai, sicrhau bod cynghorau’n mynd ati i holi am enwau’r lleoedd hynny fel bod enwau Cymraeg addas yn cael eu defnyddio.
- Cymell cynghorau sir a chymuned ynghyd â chymdeithasau lleol i hyrwyddo prosiectau cymunedol i gofnodi enwau lleoedd.
- Symbylu ymchwil i ddyfnhau’r ddealltwriaeth o darddiadau ac ystyron enwau lleoedd gan roi sylw cyffredinol i’r maes er mwyn ei boblogeiddio.
- Cymell sefydlu gwefannau lleol ar enwau lleoedd ar batrwm gwefan Enwau Dyffryn Ogwen gan Dafydd Fôn Williams.
- Cynnwys enwau lleoedd yn rhan o gwricwlwm yr ysgolion cynradd ac uwchradd drwy gyd-gysylltu iaith, hanes, daearyddiaeth ac astudiaethau’r amgylchedd.
- Galw ar gynghorau sir ledled Cymru i osod arwyddion yn nodi enwau llwybrau, pontydd ac afonydd lle bo’n briodol.