Cyfanswm grantiau gan Elusen Ogwen yn mynd dros £50,000

Ariannu prosiectau sy’n gwella’r amgylchedd lleol

Caren Brown
gan Caren Brown

Sefydlwyd Elusen Ogwen ym mis Rhagfyr 2020 er mwyn helpu i ddosbarthu peth o elw Ynni Ogwen, er budd y gymuned leol. Yn ddiweddar, cynhaliwyd cyfarfod o’r Ymddiriedolwyr i gymeradwyo pum grant newydd, gyda’r pumed, i Ganolfan Tregarth, yn mynd â chyfanswm y grantiau i £54,249.

Dywedodd Lowri Williams, Cadeirydd yr Ymddiriedolwyr, ei bod yn falch iawn o gyhoeddi’r grantiau diweddar a’i bod yn edrych ymlaen at fedru cynnig cymorth pellach i grwpiau lleol yn y dyfodol.

Ers dyrannu’r grant cyntaf ym mis Awst 2021, i Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Cymru, mae Elusen Ogwen wedi talu 28 o grantiau. Mae’r elusen yn cynnig grantiau o hyd at £3,000 ar gyfer grwpiau cymunedol yn yr ardal a wasanaethir gan Gynghorau Cymuned Bethesda, Llanllechid a Llandygai.

Mae rhestr lawn o feini prawf grantiau’r elusen i’w gweld ar ei gwefan, ond yn fras nod yr elusen yw ariannu prosiectau sy’n gwella’r amgylchedd lleol, yn arbed ynni, neu’n helpu i leihau tlodi.

Dros y pedair blynedd diwethaf, maent wedi helpu i ariannu paneli solar a goleuadau solar, ffenestri gwydr dwbl, systemau casglu dŵr glaw, gweithgareddau haf i blant lleol, goleuadau LED rhad-ar-ynni, pecynnau o eitemau arbed ynni i deuluoedd lleol a llawer iawn mwy!

Dywedodd Gareth Cemlyn Jones:

“Fel Cadeirydd Ynni Ogwen rwyf yn falch iawn o’r gwaith mae’r Elusen wedi ei gyflawni ers ei sefydlu yn 2020. Gweledigaeth Partneriaeth Ogwen wrth greu Ynni Ogwen oedd sicrhau cynnyrch ein hunain a defnyddio’r incwm o werthu’r trydan er lles y gymuned yn y Dyffryn. Mae’n amlwg fod hyn wedi ei wireddu a hoffwn ymestyn ein diolch i’r tîm am y gwaith rhagorol yma.”

Dyfarnwyd y grantiau diweddaraf a gyhoeddwyd gan yr elusen i Barc Moch (i ariannu gweithgareddau’r haf), Clwb Criced a Bowlio Bethesda (ar gyfer goleuadau ynni’r haul allanol a thanc dŵr newydd), Dreigiau’r Dyffryn (goleuadau LED newydd), Partneriaeth Ogwen (dyddiau gweithgareddau i deuluoedd) a Chanolfan Tregarth (ffensys a llwybrau allanol newydd).

Mae manylion llawn am sut i wneud cais am grantiau ar gael ar wefan yr elusen https://www.ogwen.cymru/cy/prosiectau-cymunedol/elusen-ogwen/. Neu anfonwch e-bost at elusenogwen@gmail.com am ragor o wybodaeth.

Dweud eich dweud