Rhedeg a beicio er budd elusen Clefyd Motor Niwron

Dau o Ddyffryn Ogwen yn hel pres y penwythnos yma

Carwyn
gan Carwyn
9deab5e0-c312-4cf8-a444

Huw Davies

IMG_1971

Meirion wedi ras elusennol arall (o wefan Mentrau Iaith)

Mae dau o Ddyffryn Ogwen yn paratoi at benwythnos a hanner wrth iddynt anelu at gwblhau heriau i godi arian at elusen clefyd Motor Niwron.

Marathon Leeds

Wedi dilyn hanes Rob Burrow, Doddie Weir a Kevin Sinfield, mae Huw Davies o Gerlan wedi ei ysbrydoli i godi pres tuag at elusen Motor Niwron.

Bydd yn cymryd rhan ym Marathon Rob Burrow Leeds ar ddydd Sul, 12 Mai.

“Wedi bod yn ymarfer yn y glaw ers mis Ionawr felly barod am y diwrnod mawr – ac mae’n addo haul braf yn Leeds,” meddai.

“O leia’ fydd yna lai o elltydd na Gerlan. Diolch yn fawr iawn i bobl sydd wedi noddi, gwerthfawrogi’n fawr. Awe!”

Mae Huw eisoes wedi hel ymhell dros fil o bunnoedd ac os am ei gefnogi, gallwch wneud hynny yma ar wefan Just Giving.

Beicio 112 o filltiroedd

Ras feics heriol y Fred Whitton yn swydd Cumbria fydd yn wynebu Meirion Davies o Lanllechid. Mae yntau yn casglu arian at elusen Motor Niwron.

Bydd yn beicio 112 o filltiroedd i fyny ac i lawr elltydd 3500 o fetrau ar ddydd Sul, 12 Mai.

“10 Mlynedd yn ôl collodd fy ngwraig Meleri ei mam – Gwyneth Mair i glefyd Motor Niwron,” meddai Meirion ar wefan Just Giving.

“Dwi am geisio codi arian er mwyn cyfrannu at ymchwil i gynorthwyo i ddarganfod gwellhad i’r cyflwr erchyll yma.”

I gefnogi Meirion, ewch draw i’r wefan.

Pob lwc i’r ddau ohonynt.

Dweud eich dweud