Etholiad cyffredinol – pwy sy’n sefyll yn yr etholaeth newydd?

Enwau’r ymgeiswyr ar gyfer Bangor Aberconwy wedi eu cadarnhau

Gyda’r etholiad cyffredinol ar gyfer San Steffan ar 4 Gorffennaf, mae’n werth cofio fod Dyffryn Ogwen wedi ei leoli yn etholaeth newydd sbon o’r enw Bangor Aberconwy eleni.

Wrth gwrs, mae’r ardal wedi ei chynrychioli gan Hywel Williams yn Llundain ers blynyddoedd lawer, ond gyda’r Aelod Seneddol wedi nodi ei fod yn sefyll lawr yn yr etholiad, bydd rhywun newydd yn cynrychioli’r ardal yng nghoridorau San Steffan o fis Gorffennaf.

Mae enwau’r holl ymgeiswyr sydd yn sefyll yn yr etholiad bellach wedi eu cadarnhau. Dyma fanylion maent wedi ei nodi:

  • John Clark (Reform UK)
  • Petra Haig (Plaid Werdd)
  • Claire Hughes (Llafur Cymru)
  • Kathrine Jones (Socialist Labour Party)
  • Steve Marshall (Climate Party)
  • Robin Millar (Plaid Geidwadol Cymru)
  • Rachael Roberts (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru)
  • Catrin Wager (Plaid Cymru)

Cofiwch, er mwyn gallu cymryd rhan yn yr etholiad, mae’n rhaid eich bod wedi cofrestru i bleidleisio erbyn 18 Mehefin, ac i wneud cais am bleidlais bost, rhaid gwneud hynny erbyn 5pm ar 19 Mehefin. Am ragor o fanylion a gwybodaeth am hyn, ewch draw i wefan y Cyngor.

Hefyd, bydd angen dangos dogfen adnabod â llun mewn gorsafoedd pleidleisio ar gyfer yr etholiad San Steffan. Rhagor o wybodaeth yma.

Mae’r etholaeth Bangor Aberconwy yn cael ei weinyddu gan Gyngor Conwy ac mae manylion am yr holl ymgeiswyr ac ati i’w weld ar eu gwefan.

Os oes unrhyw un o’r ymgeiswyr yn awyddus i rannu pam eu bod yn sefyll a beth y byddai eu blaenoriaethau nhw yn San Steffan, ac yn arbennig eu meddyliau am gynrychioli Dyffryn Ogwen, gofynnwn iddynt gysylltu a byddwn yn barod i rannu’r hyn sydd ganddynt i’w ddweud gyda chi.