Ysgol Roc Pesda

Dau ddiwrnod am ddim o ddysgu efo cerddorion eraill

Carwyn
gan Carwyn
IMG_1983

Ydych chi neu rywun yn y teulu yn canu, chwarae gitâr, bas, piano neu drymiau?

Fyddech chi’n hoffi cael y cyfle i chwarae mewn band a chwrdd â cherddorion ifanc eraill yn yr ardal?

Os ydych chi’n berson ifanc 10oed neu hŷn, gallech ymuno efo ‘Ysgol Roc’ ddeuddydd yn Neuadd Ogwen a dysgu gyda thîm o gerddorion proffesiynol.

Mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim oherwydd cyllid sydd wedi sicrhau.

Sesiynau ymlaen 28 a 29 Mai o 11am tan 4pm – bachwch eich lle!

Am fwy o wybodaeth ac i gofrestru, cysylltwch â: admin@communitymusicwales.org.uk

Dweud eich dweud