Fel gyda phob cymuned Gymraeg, mae gan Fethesda set unigryw o ddywediadau a geiriau a ddefnyddir yn gyffredin gan ein cymuned.
Rydym yn ffodus yn Nyffryn Ogwen bod llawer o waith wedi ei wneud gan wahanol bobl i ddal a chadw’r rhain ar gyfer y dyfodol (gweler y dolenni ar ddiwedd yr erthygl am ragor o wybodaeth am yr adnoddau sydd ar gael).
I ddathlu rhai o’r geiriau a’r ymadroddion hyn, mae Partneriaeth Ogwen wedi cydweithio â Phartneriaeth Tirwedd y Carneddau i ddod â nhw i’n Stryd Fawr.
Ar ôl paratoi rhestr o eiriau ac idiomau Bethesda gyda’r arbenigwraig leol Mary Jones, aeth criw o ddisgyblion Ysgol Penybryn ati i ddylunio llechi yn cynnwys y geiriau ynghyd â dyluniadau a ysbrydolwyd gan draddodiad cerfio llechi Dyffryn Ogwen. Helpodd y crefftwr lleol Alun Davies (Amser Al) y grŵp i ddefnyddio torrwr laser y Gofod Gwneud Canolfan Cefnfaes i ddod â’u gweledigaeth yn fyw.
Mae sawl busnes lleol wedi cytuno’n garedig i arddangos y llechi yn eu ffenestri drwy’r haf. Mae’r llechi bellach i’w gweld mewn ffenestri i fyny ac i lawr y Stryd Fawr. Dilynwch y map isod i ddod o hyd iddyn nhw i gyd. Bu myfyrwyr Ysgol Penybryn hefyd yn helpu i greu rhai darluniau i ddangos ystyr y geiriau.
Faint o’r geiriau hyn ydych chi’n eu hadnabod? A oes unrhyw rai rydych chi’n dal i’w defnyddio’n rheolaidd? Ewch i’r wefan am fwy o wybodaeth ac i lawrlwytho’r map i ddarganfod y llechi i gyd.
Hoffai Partneriaeth Ogwen ddiolch i Mary Jones, Alun Davies, Ysgol Penybryn a’r holl siopau lleol sydd wedi cytuno i gymryd rhan. Rydym hefyd yn ddiolchgar i Bartneriaeth Tirwedd y Carneddau am ariannu’r prosiect.