Huw yn nhîm rygbi Cymru dan 20

Cymru i wynebu Gwlad Pwyl ym Mharc yr Arfau

Carwyn
gan Carwyn

Mae Huw Davies wedi ei enwi yn nhîm dan 20 rygbi Cymru a fydd yn wynebu Gwlad Pwyl nos fory (20 Ionawr).

Bydd Huw, sy’n aelod o garfan broffesiynol tîm rygbi y Sale Sharks yn dechrau yn y rheng ôl.

Yn ôl hyfforddwr y tîm dan 20, Byron Hayward mae’n gyfle gwych i’r chwaraewyr ifanc sicrhau eu lle yng ngharfan ar gyfer y Chwe Gwlad.

“Mae’n gyfle olaf i chwaraewyr wrth i ni chwarae Iwerddon mewn ychydig dros bythefnos yn rownd agoriadol y Chwe Gwlad ym Mae Colwyn,” meddai Hayward.

“Mae bod yn gorfforol yn bwysig ar lefel gêm brawf felly fe fyddwn ni’n edrych i fod yn barod er mwyn gobeithio y gallwn ni sefyll i fyny iddyn nhw ac ennill y frwydr gorfforol.”

Fel y bydd darllenwyr yn cofio, mae disgwyl i garfan Chwe Gwlad dan 20 Cymru gael ei enwi yn dilyn y gêm gyfeillgar yma.

Pob lwc i Huw  yn y gêm ddiweddaraf a gobeithiwn ei weld yn cael ei gynnwys yn y garfan yna hefyd a chyfle ei weld yn chwarae ym Mae Colwyn yn y gemau cartref yn erbyn Iwerddon a Lloegr fis Chwefror.