Huw Davies yng ngharfan ymarfer Cymru dan 20

Gobaith y bydd y chwaraewr rheng-ôl yn cael ei ddewis i dîm ieuenctid yn y Chwe Gwlad

Carwyn
gan Carwyn

Yn dilyn tymor cyntaf fel chwaraewr proffesiynol ar lyfrau clwb Siarcod Sale, mae Huw Davies o Fraichmelyn yn gwneud ei farc yn y byd rygbi.

Yn ddiweddar, fe fu’n gapten ar dîm Cymru dan 20 a fu’n chwarae gêm ymarfer gyfeillgar yn erbyn Yr Alban.

Yn ei amser ar y cae, llwyddodd Huw a’r tîm droi’r gêm o fod yn colli 5 i 17 ar yr hanner i fuddugoliaeth o 26 i 22 dros yr Albanwyr.

Mae Huw bellach wedi ei wahodd i garfan ymarfer Chwe Gwlad dan 20 Cymru. Bydd y garfan derfynol yn cael ei chyhoeddi yn dilyn gêm ymarfer ym mis Chwefror.

Rydan ni’n croesi bob dim am newyddion da bryd hynny. Tan hynny, llongyfarchiadau mawr i Huw ar ei lwyddiant hyd yma ar y cae.