Ffenest Siop Ddigidol – Stryd Fawr Bethesda

Mae profiad arloesol o siopa ar gael bellach ar Stryd Fawr Bethesda.

Robyn Morgan Meredydd
gan Robyn Morgan Meredydd

Mae Cadwyn Ogwen wedi sefydlu ffenest siop ddigidol yn swyddfa Partneriaeth Ogwen ar 26 Stryd Fawr, Bethesda.

Mae’r ffenest yn dangos peth o’r cynnyrch sydd ar gael ar-lein gan gynhyrchwyr lleol fel Inc Pinc, Cosyn Cymru, Bwyd Mor Menai, Jams Angharad Huws, Mel Pen y Bonc a mwy. Hefyd yn cael eu harddangos mae enghreifftiau o’r bocsys anrhegion y gellir eu prynu am £1 a’u llenwi â chynnyrch o’ch dewis.

Bydd cwsmeriaid hefyd yn dod o hyd i God QR cyfleus yn y ffenest. Pwyntiwch eich ffon glyfar at y Cod QR, cliciwch arno a byddwch chi’n cyrraedd gwefan Cadwyn Ogwen yn syth, lle gallwch bori a siopa am gynnyrch lleol.

Nod y Gadwyn yw darparu llwyfan ar y we ar gyfer cynhyrchwyr diod, bwyd a chrefft i werthu cynnyrch i gwsmeriaid yn Nyffryn Ogwen a thu hwnt.

Mae gofyn i gwsmeriaid archebu cyn hanner dydd ar ddydd Mawrth ac mi wnawn ni danfon eich siopa atoch bnawn dydd Iau yn un o’n cerbydau trydan cymunedol. Neu mae’n bosib i chi gasglu o’n pwyntiau casglu: Moelyci Tregarth, Llaethdy Gwyn Bethesda, neu Tyddyn Teg Bethel.

Felly cadwch lygad allan ar gyfer ein ffenest tro nesa dach chi ar y Stryd Fawr, dilynwch ni ar gyfryngau cymdeithasol a dewch draw i www.cadwynogwen.cymru i weld beth sydd ar gael.