Beca Roberts wedi ei hethol yn Gadeirydd Cyngor Gwynedd

Cynghorydd Tregarth a Mynydd Llandygai yn edrych ymlaen at y flwyddyn i ddod

Carwyn
gan Carwyn
Cadeirydd-1

Mae’r Cynghorydd Beca Roberts (Tregarth a Mynydd Llandygai) wedi ei hethol yn Gadeirydd Cyngor Gwynedd am 2024/25.

Cafodd ei dewis gan ei gyd-gynghorwyr yng nghyfarfod blynyddol Cyngor Gwynedd, gyda’r Cynghorydd Ioan Thomas (Menai, Caernarfon) wedi ei ethol yn Is-Gadeirydd.

Yn Gynghorydd Gwynedd ers 2022 mae’r Cynghorydd Beca Roberts wedi gwasanaethu ar sawl gwahanol bwyllgor yn ystod ei chyfnod ar y Cyngor.

Wrth gael ei hethol yn Gadeirydd Cyngor Gwynedd, dywedodd Beca:

“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr i’r flwyddyn sydd i ddod, a byddaf yn gwneud fy ngorau i wasanaethu a hybu gwaith y Cyngor a holl drigolion Gwynedd. Mae hi’n fraint ac anrhydedd cael fy ethol yn Gadeirydd Cyngor Gwynedd.”

Wrth siarad gydag Ogwen360, dywedodd ei bod yn falch o gael ei dewis.

“Dwi’n gyffrous iawn am gael fy ethol heddiw fel Cadeirydd Cyngor Gwynedd, mae’n rôl ddifyr ac ar adegau heriol a felly mae’n meddwl lot i mi fod fy nghyd-Gynghorwyr wedi fy newis i i’w cynrychioli.

“Ac mae’r penodiad hefyd yn dangos bod y Cyngor o-ddifrif am gynrychiolaeth amrywliol. Dwi’n teimlo’n gry’ bod cael cynrychiolaeth amrywiol o fewn awdurdod lleol yn hollbwysig.”

Cadeirydd ieuenga’r Cyngor Sir

Yn 30 oed, mae’n debyg mai Beca ydi’r person ieuengaf i gymryd rôl Cadeirydd ar Gyngor Gwynedd, ac mae’n falch o’r cyfle.

“Fel person iau, dwi’n grediniol bod gennym ni le i ddylanwadu, agor drysau ac annog diddordeb mewn gwleidyddiaeth ymysg bobl ifanc eraill.

“Roedd hi mor braf ennill sedd ar Gyngor Gwynedd, pan ddaeth criw iau ohonom i mewn. Bellach, mae 25% o Gynghorwyr y Blaid yng Ngwynedd o dan 40 oed a 43% ohonom yn ferched.

“Mae cael cychwyn fy ngyrfa wleidyddol gyda chriw iau wedi bod yn hyfryd gan ein bod ni wedi gallu pwyso ar ein gilydd a dysgu ar y cyd. Mae’r cynghorwyr profiadol wedi bod yn gefnogol iawn hefyd, yn estyn llaw ac yn dangos y ffordd i ni.”

Dyffryn Ogwen

“Ond mae creiddiau fy hyder i ddefnyddio fy llais yn dod o fy ngwreiddiau yn Dyffryn Ogwen.

“Mae gymaint o bobol yn yr ardal yn gweithio mor galed i greu cymuned cyfeillgar ac ffyniannus, ac mae y bobol yma yn ysbrydoli fi pob dydd.

“Yn enwedig, mae fy amser gyda thîm Partneriaeth Ogwen yn bendant wedi fy ysbrydoli dros y blynyddoedd diwethaf. Mae criw cryf o ferched yno, yn arwain y ffordd ac yn gosod seiliau cadarn i’r gymuned ar gyfer y dyfodol.”