Dewch draw i Gyfarfod Cymunedol GwyrddNi

Cyfle i glywed mwy a chyfrannu at fudiad GwyrddNi ar yr 2il o Hydref

gan Chris Roberts

Mi fydd GwyrddNi yn cynnal cyfarfod cymunedol yng Nghanolfan Cefnfaes am 18:00 ar Ddydd Llun yr 2il o Hydref i drafod eu cynllun gweithredu cymunedol a’r camau nesaf tuag at ei wireddu.

Mae croeso mawr i bawb ymuno i glywed mwy am GwyrddNi ac i rannu unrhyw syniadau ac arbenigedd.

Dros y ddwy flynedd diwethaf mae GwyrddNi wedi bod yn gweithio gyda grŵp o 50 o bobl yn Nyffryn Ogwen, yn ogystal ag ysgolion yr ardal yn trafod a phenderfynu sut y gallem ymateb yn lleol i newid hinsawdd. Mae’r criw wedi dod fyny gyda 10 syniad.

Mae GwyrddNi bellach wedi derbyn arian o Gronfa Gweithredu Hinsawdd y Loteri Genedlaethol i barhau i weithio yn Nyffryn Ogwen, a 4 ardal arall yng Ngwynedd am 4 mlynedd arall.

Gallwch ddarllen mwy am y syniadau yn y cynllun gweithredu fan hyn https://www.gwyrddni.cymru/dyffryn-ogwen/. Gwaith GwyrddNi rŵan ydi cefnogi’r gymuned i wireddu’r syniadau yma.

Yn Nyffryn Ogwen mae GwyrddNi yn gweithio o fewn Partneriaeth Ogwen. Ar gyfer y cam nesaf, mae gwahoddiad i unrhyw un yn y gymuned, nid dim ond y rhai oedd yn rhan o’r darn cyntaf i gyfrannu syniadau, arbenigedd a chefnogaeth.