Chwarel Biws – cân newydd Dafydd Hedd

“reit yng nghanol ardal y chwareli, mae hanes diwydiannol yr ardal wedi creu argraff arnai”

Dafydd Herbert-Pritchard
gan Dafydd Herbert-Pritchard

Dwi wedi bod yn Stiwdio Un yn Rachub gyda’r band newydd, ac mae’r gân gyntaf sef Chwarel Biws yn dod allan ar Fehefin 30ain.

Ysbrydolwyd y gân drwy gerdd a ysgrifennais pan oeddwn yn bedair ar ddeg oed am sut mae’r teimlad o undod yn y gymuned wedi esblygu dros yr oesoedd.

Fel artist o Fethesda, reit yng nghanol ardal y chwareli, mae hanes diwydiannol yr ardal wedi creu argraff arnai.

Wrth astudio economeg ym Mryste ac yn darllen drwy hen lyfrau nodiadau, ddaru mi ddod ar draws y geiriau “Sut mae’r golyfa’n newid, y castell sy’n troi’n rhyfelgar, chapel oer sydd dal i sefyll, a’r tristwch wedi harfer”. Roedd rhaid i mi greu rhywbeth gyda hwn, a ceisio’i chyferbynnu gyda’r presennol.

Mae ’na naws indie roc gyda theimlad ymlaciol ac ysbeidiau egnïol. Mae’r sŵn yn amlwg wedi cael ei ddylanwadu gan Nirvana, Maffia Mr Huws a Papur Wal. Mae’r sŵn gitâr yn gymysgedd o Red Hot Chilli Peppers, The 1975 a Mari Mathias. Mae Morgan ar y drymiau wedi cael ei ysbrydoli gan artistiaid shoegze fel Block Party a Tame Imapala a gallir gweld hyn yn y fills. Mae Osian Câi hefyd yn cymryd ysbrydoliaeth debyg. Mae’r geiriau yn cyfleu themâu o rwystredigaeth gymdeithasol, anobaith, dirfodaeth a hiraeth.

Mae’r band wedi bod yn chwarae lleoliadau megis Clwb Ifor Bach, Y Glôb ym Mangor, Saith Seren, The Lousiana, Fleece ac Exchange Basement ym Mryste a Gŵyl Croeso Abertawe yn y misoedd diweddar. Yn yr haf, byddwn yn chwarae set yn Oakleyfest ar Awst 18. Bydd yna ddwy gân arall yn dod allan yn ystod y misoedd nesaf, felly edrychwch allan.

Gallwch wrando ar y gân dydd Gwener nesaf ar bob platfform cerddorol.