Blog byw: Gŵyl Gwenllian 2023

Y diweddaraf o’r ŵyl ym Methesda heddiw, sy’n dathlu merched y Carneddau

Carwyn
gan Carwyn
IMG_0582

Yn y blog heddiw: y diweddaraf o’r holl weithgareddau a digwyddiadau sy’n digwydd yng Nghanolfan Cefnfaes.

Os ydach chi’n dod draw, cofiwch ‘ychwanegu diweddariad’ eich hun – lluniau, fideos, sylwadau am bopeth i wneud â’r ŵyl.

10:22

IMG_0609

Dewch yn llu i ymarfer Ioga allan yng ngerddi Ffrancon

10:16

Taith beics yn gadael Canolfan Cefnfaes- pob hwyl genod!

09:33

Bore ma, mi fydd Leisa Mererid yn arwain dosbarth ioga i deuluoedd yng Ngerddi Cymunedol Ffrancon o 10:30 – 11:15 yn seiliedig ar ei llyfrau plant diweddar – Y Goeden Ioga ac Y Wariar Bach. Dewch â matiau ioga lle bo modd. Gweithgaredd yn rhad ac am ddim.

16:25

Dyna ni am heddiw, mwy bore fory o Ŵyl Gwenllian 2023.

15:53

Manon Steffan Ros yn darllen o’i nofel Llyfr Glas Nebo.

15:22

IMG_0606

“Am fraint cael bod yn ddisgybl Dyffryn Ogs”

Ysgol Dyffryn Ogwen a Rhiwlas cyn hynny yn pwysleisio dylanwad athrawon a rhieni oedd yn rhoi sylw mawr ar ddarllen.

15:15

Annes Glynn sy’n holi un o awduron mwyaf amryddawn yr ardal, Manon Steffan Ros.

14:52

Mae’n trafod ei nofel Castell Siwgr sy’n ystyried cyswllt Stad y Penrhyn a chaethwasiaeth.

14:50

Yr awdures o fri, Angharad Tomos sydd nesaf.

Er mai un o Ddyffryn Nantlle ydi Angharad, mae ganddi gyswllt amlwg gyda Dyffryn Ogwen.

Pan fyddai’n ymweld yn blentyn gyda’i Mam a dychwelyd i ardal ei mebyd hi, roedd hi wastad yn dweud yn bendant mai “hwn ydi’r lle gorau yn y byd”.

Pwy fysa’n dadlau efo hynny de!

14:44

Ar ôl te pnawn hyfryd yn cynnwys cynnyrch Cadwyn Ogwen a chyfle i weld llyfrau gan awduresau o Siop Ogwen, mae’r sesiwn nesa ar gychwyn.