Blog byw: Gŵyl Gwenllian 2023

Y diweddaraf o’r ŵyl ym Methesda heddiw, sy’n dathlu merched y Carneddau

Carwyn
gan Carwyn
IMG_0582

Yn y blog heddiw: y diweddaraf o’r holl weithgareddau a digwyddiadau sy’n digwydd yng Nghanolfan Cefnfaes.

Os ydach chi’n dod draw, cofiwch ‘ychwanegu diweddariad’ eich hun – lluniau, fideos, sylwadau am bopeth i wneud â’r ŵyl.

15:53

Manon Steffan Ros yn darllen o’i nofel Llyfr Glas Nebo.

15:22

IMG_0606

“Am fraint cael bod yn ddisgybl Dyffryn Ogs”

Ysgol Dyffryn Ogwen a Rhiwlas cyn hynny yn pwysleisio dylanwad athrawon a rhieni oedd yn rhoi sylw mawr ar ddarllen.

15:15

Annes Glynn sy’n holi un o awduron mwyaf amryddawn yr ardal, Manon Steffan Ros.

14:52

Mae’n trafod ei nofel Castell Siwgr sy’n ystyried cyswllt Stad y Penrhyn a chaethwasiaeth.

14:50

Yr awdures o fri, Angharad Tomos sydd nesaf.

Er mai un o Ddyffryn Nantlle ydi Angharad, mae ganddi gyswllt amlwg gyda Dyffryn Ogwen.

Pan fyddai’n ymweld yn blentyn gyda’i Mam a dychwelyd i ardal ei mebyd hi, roedd hi wastad yn dweud yn bendant mai “hwn ydi’r lle gorau yn y byd”.

Pwy fysa’n dadlau efo hynny de!

14:44

Ar ôl te pnawn hyfryd yn cynnwys cynnyrch Cadwyn Ogwen a chyfle i weld llyfrau gan awduresau o Siop Ogwen, mae’r sesiwn nesa ar gychwyn.

13:30

Cawn glywed gan Alys Conran am nesa…

13:12

Mae Rhiannon Gwyn yn trafod ei gwaith sy’n cyfuno clai a phrosesau serameg a llechi.

12:54

Ann Catrin Evans sy’n trafod ei gwaith nesaf. Mae hithau yn sôn am ei magwraeth yn Nhregarth a sut mae’r rhyddid o fod yng nghefn gwlad wedi dylanwadu arni.

“Mae’n rhan o’r gwreiddiau cryf sydd gen i,” meddai.

12:45

Mae’r sgwrs celf yn cael ei harwain gan Rebecca Hardy Groffith. Yn cychwyn gydag Anna Pritchard yn trafod ei gwaith sy’n dwyn ysbrydoliaeth o nodau clust defaid ac sydd i’w weld fel patrymau yn ei gwaith.