Codi pres ar gyfer prosiectau bwyd lleol

Mae Pantri Pesda yn eu plith

Ar Goedd
gan Ar Goedd

Mae gwleidyddion lleol yn lansio eu hapêl Nadolig i godi arian ar gyfer prosiectau bwyd yn eu hetholaeth, gan gynnwys Pantri Pesda yn Nyffryn Ogwen.

Mae’r apêl gan Siân Gwenllian AS a Hywel Williams AS sy’n cynrychioli ardal Arfon yn Senedd Cymru a San Steffan yn cael ei lansio yn wyneb argyfwng costau byw, ac mae disgwyl i’r sefyllfa economaidd arwain at ddefnydd cynyddol o fanciau bwyd a phrosiectau rhannu bwyd eraill.

O’r herwydd, bydd arian a godir o Apêl Nadolig Plaid Cymru Arfon eleni yn cael ei roi i wyth cynllun yn yr ardal yn cynnwys Pantri Pesda yn Nyffryn Ogwen. Mae’r cynlluniau eraill yn cynnwys Banc Bwyd Arfon; Banc Bwyd Coed Mawr; Bwyd i Bawb Bangor; Cynllun Bwyd Yr Orsaf Penygroes; Porthi Dre, Caernarfon; Cynllun Bwyd Cwm-y-glo a Llanrug a Banc Bwyd Cadeirlan Bangor.

Yn “fwy hanfodol nag erioed”

“Mae bodolaeth y prosiectau hyn yn adlewyrchu’r sefyllfa enbyd y cawn ein hunain ynddi,” meddai Siân Gwenllian AS.

“Maen nhw’n gynhaliaeth i bobl sy’n cael trafferth dal dau ben llinyn ynghyd, a’r gaeaf yma maen nhw’n fwy hanfodol nag erioed.

“Mae’r gair ‘digynsail’ wedi cael ei ddefnyddio hyd syrffed yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ond rydyn ni wir yn byw mewn cyfnod o galedi na welwyd ei debyg i deuluoedd ar draws Arfon a’r wlad i gyd.

“Rydym yn deall bod pryder gwirioneddol am y gaeaf sydd o’n blaenau, ac effeithiau’r argyfwng costau byw.

“Felly, eleni mae Plaid Cymru Arfon wedi penderfynu rhoi’r arian a godir gan ein hapêl ariannol i gynlluniau bwyd o fewn yr etholaeth.

“Y gaeaf hwn bydd y prosiectau hyn yn achubiaeth i lawer, ac mae angen ein cefnogaeth lawn arnynt.”

“Trafferth rhoi bwyd ar y bwrdd”

“Mae ergyd yr argyfwng costau byw, sy’n cael ei achosi gan chwyddiant, cynnydd mewn cyfraddau llog a chynnydd mewn biliau ynni eisoes i’w deimlo ar draws cymunedau Arfon,” meddai Hywel Williams, sy’n cynrychioli’r ardal yn San Steffan.

“Mae yna deuluoedd yn cael trafferth rhoi bwyd ar y bwrdd, a busnesau yn wynebu chwalfa ariannol. Mae gaeaf llwm iawn o’n blaenau.

“Mae Plaid Cymru wedi galw dro ar ôl tro ar lywodraeth y DU i gymryd camau pendant i amddiffyn ein haelwydydd mwyaf bregus.

“Ond yn absenoldeb gweithredu go iawn gan y llywodraeth, rydym yn ffodus i gael pobol dosturiol o fewn ein cymunedau sy’n gweithio’n galed i amddiffyn y bobl sydd fwyaf bregus mewn cymdeithas.

“Dylai bodolaeth y mentrau bwyd hyn fod yn destun cywilydd i lywodraeth y DU.

“Mae’r gwaith maen nhw’n ei wneud yn hollbwysig, ac mae’n bleser eu cefnogi.”

Dylai’r sawl sy’n dymuno cyfrannu at yr apêl ddilyn y ddolen hon.