Welsh Whisperer – Y Flwyddyn Aeth Heibio

Y Mansel Davies man ydi’r diweddaraf i drafod sut mae’r 12-mis diwethaf wedi bod iddo fo.

Carwyn
gan Carwyn

Fel perfformiwr poblogaidd fyddai fel arfer yn teithio ar hyd a lled Cymru yn diddanu cynulleidfaoedd, mae’r cyfnod ers dyfodiad Coronafeirws wedi bod yn wahanol iawn i’r arfer i’r Welsh Whisperer.

Mae hanes rhai o fentrau diweddaraf y Welsh Whisperer – sydd wedi ymgartrefu yma yn Nyffryn Ogwen – wedi ymddangos ar Ogwen360. Yn eu plith mae rhaglen deledu sydd i’w gweld ar S4C ar hyn o bryd ar raglen “Welsh Whisperer: Ni’n Teithio Nawr”, ynghyd a hanes dau gwrw sy’n dwyn ei enw.

Yma, mae’n trafod ei brofiadau fel perfformiwr a sut mae’n edrych ymlaen at ddychwelyd at gyfnod pan fydd pawb yn cael mynd allan i fwynhau cyngherddau yn y cnawd.

Diolch am rannu dy brofiadau – Gwd Thing!

Am fwy o wybodaeth am y Welsh Whisperer, ewch i https://www.welshwhisperer.cymru/