Taith ledled Cymru gyda’r Welsh Whisperer

Mae rhaglen newydd gyda’r gŵr sydd wedi ymgartrefu yn Nyffryn Ogwen yn dod i’r sgrîn fach

Carwyn
gan Carwyn

Bydd un o drigolion amlyca’r ardal yn ymddangos ar gyfres newydd ar S4C o nos Wener, 26 Mawrth.

Dros y blynyddoedd diwethaf mae’r Welsh Whisperer wedi dod yn wyneb cyfarwydd ar draws Cymru gyda’i hiwmor ffraeth a’i ganeuon bachog. Mae o wedi cyfansoddi nifer o glasuron yn cynnwys yr anfarwol ‘Loris Mansel Davies’ a ‘Ni’n Beilo Nawr’.

Mewn cyfres newydd sbon, Welsh Whisperer: Ni’n Teithio Nawr, sy’n dechrau ar 26 Mawrth, cawn neidio i’r wagen ac ymuno gydag o ar ei daith i ymweld â rhai o bentrefi cefn gwlad Cymru.

“Aethon ni draw i chwe ardal ar draws cefn gwlad Cymru; ardaloedd sydd falle ddim ar y teledu’n aml iawn, neu ardaloedd lle dwi wedi cael nosweithiau da yn y gorffennol,” meddai’r Welsh Whisperer.

“Pwrpas mynd yna wedyn oedd cael cwrdd a rhai o’r cymeriadau sy’n byw ‘na – pobl eto sydd ddim bob tro’n cael sylw.

“Dwi’n cwrdd â lot o’r bobl ‘ma ar y circut, pan dwi’n mynd rownd yn canu, felly ro’n i moen rhoi dipyn bach o sylw iddyn nhw, a hefyd ‘da’n ni di cael dysgu ‘chydig bach am y pentrefi ‘ma..”

“Chydig o sing-song”

“Uchafbwynt y rhaglen yw cael perfformio – hwyl a ‘chydig o sing-song ar y diwedd. Odden ni’n cyfansoddi cân ar y cyd gydag un o dalentau’r ardal bob tro. Mae’r rhaglen yn llawn o ganeuon hefyd!

“Fel arfer pan dwi’n mynd i lefydd fel dwi wedi bod, byddwn i’n mynd i dafarn neu neuadd – canolbwynt y pentre. Wrth gwrs, doedden ni methu neud e fel’na tro ‘ma, felly odd e’n ddiddorol gweld faint o bobl oedd yn fodlon dod mas i gymryd rhan, achos roedden ni reit yng nghanol y cyfnod clo.”

Yn y rhaglen gyntaf, bydd y Welsh Whisperer, sydd bellach yn byw ym Methesda, yn teithio i lawr i’r gorllewin gwyllt ac i bentref Llanboidy, sydd dafliad carreg o Gwmfelin Fynach, lle cafodd ef ei hun ei fagu.

“Nes i wir fwynhau mynd nôl i Lanboidy, sydd reit ar bwys lle ges i’n magu. Roedd e’n grêt cael mynd i gwrdd â pobl fel Brian John yn y garej. Mae pawb yn yr ardal yn ei ‘nabod e, ond efallai tu allan i patch Cwmfelin Mynach dyw e ddim yn enwog…eto. Ond gobeithio fydd e nawr ar ôl ymddangos yn canu gyda fi ar y rhaglen!”

Bydd rhaglen Welsh Whisperer: Ni’n Teithio Nawr i’w gweld pob nos Wener am 9pm, gyda’r rhaglen gyntaf i’w gweld nos Wener yma, 26 Mawrth. Bydd y rhaglen hefyd ar gael ar alw ar S4C Clic, iPlayer a llwyfannau eraill.