Partneriaeth Tirwedd y Carneddau yn lansio rhaglen grantiau cymunedol newydd ar gyfer prosiectau arloesol a chreadigol.

Ar 1 Mawrth 2021, lansiodd Partneriaeth Tirwedd y Carneddau rownd gyntaf rhaglen grantiau Cronfa Gymunedol y Carneddau. Bydd grantiau o rhwng £200 a £5,000 ar gael ar gyfer prosiectau cymunedol bach i ganolig eu maint sy’n cyd-fynd ag amcanion Partneriaeth Tirwedd y Carneddau.

gan Lowri Roberts
Rhaglen grantiau Cronfa Gymunedol y Carneddau

Mae’r Bartneriaeth yn croesawu mynegiadau o ddiddordeb ar gyfer rhaglen grantiau Cronfa Gymunedol y Carneddau. Mae’r rhaglen ar agor i grwpiau a mudiadau dielw ardal y Carneddau a’r cyffiniau – gan gynnwys cyrff cyhoeddus, grwpiau cymunedol a phartneriaethau. Dyddiad cau’r rownd gyntaf am geisiadau dros £1,000 yw 10 Mai 2021.

Dyma gyfle i wireddu syniadau am brosiectau arloesol a chreadigol sy’n helpu pobl i ddarganfod, gwarchod a dathlu eu treftadaeth leol. Gall hyn fod drwy brosiect celf, dehongli newydd a chreadigol, teithiau rhithiol, cyrsiau dysgu ar-lein a mentrau lles a llawer mwy. Ariennir y Cynllun Partneriaeth Tirwedd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Panel Cronfa Gymunedol y Carneddau sy’n penderfynu pwy fydd yn derbyn y grantiau. Mae’r panel hwn yn cynnwys gwirfoddolwyr sy’n byw yn yr ardal ac sydd â diddordeb mewn cyfrannu at amcanion y Cynllun.

Mae Cynllun Partneriaeth Tirwedd y Carneddau – casgliad o sefydliadau sydd wedi dod ynghyd dan arweiniad Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri – yn gynllun pum mlynedd sy’n gweithio i hyrwyddo dyfodol cadarnhaol i’r Carneddau. Wrth wraidd y Cynllun mae gweledigaeth i helpu cynulleidfa mor eang â phosibl i ddarganfod, gwarchod a dathlu’r ardal.

Bydd y Cynllun yn helpu gwarchod treftadaeth yr ardal trwy hyrwyddo defnydd tir cynaliadwy sy’n amddiffyn cynefinoedd, rhywogaethau ac olion archeolegol prin, a thrwy gofnodi enwau lleoedd ac atgofion.

Dywedodd Beca Roberts, Swyddog Ymgysylltu Cymunedol Partneriaeth Tirwedd y Carneddau:

“Mae’r pandemig yn parhau i effeithio ar ein bywydau dydd-i-ddydd, ond rydym wedi gweld enghreifftiau o bobl a chymunedau ar draws y byd yn datblygu syniadau creadigol i gefnogi ei gilydd a gwneud y cyfnod clo ychydig yn fwy goddefadwy.

“Gobeithiwn y bydd y Gronfa hon yn helpu i droi rhai o’r syniadau hynny’n realiti, trwy gefnogi prosiectau arloesol a fydd yn helpu pobl sy’n byw yn ardal y Carneddau a’i chyffiniau i ddarganfod a chysylltu â’i threftadaeth unigryw ac arbennig.”

Dywedodd Iwan Williams, cynhyrchydd creadigol cwmni Ffiwsar a phanelydd cymunedol:

“Dw i’n falch iawn o fod yn rhan o banel grantiau Cronfa Gymunedol y Carneddau fel aelod cymunedol. Mae’r rhaglen grantiau yn gyfle grêt i grwpiau’r ardal gyflwyno syniadau cyffrous sydd yn ymgysylltucymunedau’r Carneddau a’r cyffiniau â’r dirwedd arbennig hon.

“Dw i’n edrych ymlaen at weld pa syniadau creadigol sy’n cael eu cyflwyno a gobeithio gweld ceisiadau uchelgeisiol fydd yn rhoi cyfle i edrych ar y Carneddau mewn ffyrdd newydd, gwerthfawrogi’r adnodd arbennig yma a chefnogi’r cymunedau cyfagos.”

Rhagor o wybodaeth am y grantiau a’r cynllun.