Gig Noson Ogwen – cerddoriaeth byw gan artistiaid lleol

Pump o artistiaid cyffrous i’w mwynhau mewn un noson yn Nghlwb Rygbi Bethesda ar 4 Medi

Dafydd Herbert-Pritchard
gan Dafydd Herbert-Pritchard
Poster Noson Ogwen

Poster Noson Ogwen

Nod Noson Ogwen yw cyflwyno noson o dalent lleol a rhoi cyfleoedd i’r artistiaid gigio. Rydym yn ffodus iawn i gael ddigonedd o artistiaid o wahanol naws, theimlad ac arddulliau.

Mae’r trefnydd Dafydd Hedd wedi cydweithio gyda Bro360 a’u menter Gŵyl Bro ar y noson, felly diolch yn fawr iddynt! Mae’r gig ei hun yn cychwyn am 7pm yn Clwb Rygbi Bethesda. Bydd bar ar agor mewn lleoliad eang, modern gydag acwsteg ragorol i gyd-fynd â’r gerddoriaeth.

Mae pawb fydd yn perfformio yn lleol i’r ardal llechi:

Yazzy: Yn gyntaf mae Yazzy o Dregarth, sy’n gantores ‘soul’ / pop dan ddylanwad R&B ac artistiaid pop fel SZA ac Ariana Grande. Mae hi fel llawer o artistiaid modern yn hunan-gynhyrchu a recordio ei cherddoriaeth, gyda’i EP ‘Happy Pills’ â naws meddylgar. Mae hi wedi cael ei chanmol gan Adam Walton ar BBC Radio Wales ac mae ganddi ddyfodol disglair o’i blaen.

Adam Boggs: Mae Adam Boggs o Fethesda yn ffefryn gyda phobl ifanc yr ardal. Cyn y cyfnod clo, fe gigiodd gyda Celt a Maffia, a chwarae’r tafarndai lleol. Er nad yw’n ysgrifennu ei ganeuon ei hun, mae’n gitarydd a pherfformiwr medrus a charismatig. Does dim teimlad gwell na chanu Wonderwall efo cynulleidfa yn canu pob gair efo’i gilydd!

Dafydd Hedd: Mae Dafydd Hedd yn ganwr a chyfansoddwr caneuon indie o Gerlan. Mae’n 18 oed ac mae ganddo ddau albwm ac EP i’w enw a bellach yn tueddu i ysgrifennu caneuon am y pethau bach mewn bywyd sy’n creu’r darlun llawn. Mae’n gweld cerddoriaeth fel cyfrwng ar gyfer newid mewn cymdeithas, ac felly mae’r gerddoriaeth yn wleidyddol gyda theimlad o awdurdod eang iddi. Er hyn, mae ganddo ochr fwy ysgafn i’w wneud â chariad, natur a phrofiadau iachus. Pleidleisiwyd ei albwm Hunanledd Atlas fel y 7fed albwm Cymraeg gorau yn 2020 yn ôl Y Selar ac mae ei waith wedi derbyn canmoliaeth eang gan gynnwys erthygl dwy-dudalen diweddar yng nghylchgrawn Golwg.

Orinj: Band lleol o Fethesda sydd newydd ryddhau eu halbwm ‘How Do You See The World?’ Mae eu cerddoriaeth yn nodweddiadol gyda riffs bachog, a sain ddifater, ymlaciol yn eu lleisiau sy’n dwyn i gof Kurt Cobain. Mae eu rhythmau yn teimlo’n ddigymell ac yn egnïol ac yn eich cymell i ddawnsio. Mae’n nhw wedi eu ffurfio o’r triawd Ifan Rhys, Tomos Walker a Liam Trohear-Evans

CAI: Mae Cai yn artist unigol o Benygroes a enillodd y gystadleuaeth remics yn Brwydr Bandiau Maes B a ddaeth yn drydydd ar y cyd yn y frwydr ei hun. Mae’n chwarae’r gig hon gyda band llawn, gan gyflwyno eu naws atmosfferig, “yfed gyda’ch ffrindiau” i roi gorffeniad cryf i’r noson. Mae Cai wedi cael ei ganmol lawer gwaith gan Huw Stephens a llawer o DJs eraill Radio Cymru.

Wrth i bobl ddechrau mynd allan eto, a gigs bron yn sicr ar gyfer artistiaid mawr a mwy sefydledig sy’n gallu gwerthu allan, mae’n bwysig peidio anghofio’r artistiaid sydd ar ddod. Am £ 5 i wylio – sef punt y perfformiad, dewch draw i Glwb Rygbi Bethesda ar 4 Medi weld fod sîn gerddoriaeth Bethesda a’r ardal mewn dwylo diogel yn y dyfodol.