Mae gwaith uwchraddio wedi bod yn Neuadd Bentref Rhiwlas dros y cyfnod Covid, ac mae’r criw selog sy’n gwirfoddoli yno yn awyddus i glywed eich barn chi.
Mae arolwg ar gael i drigolion Rhiwlas a’r cylch fynegi eu barn. Gofynnir i chi lenwi un holiadur ar gyfer eich cartref – ac fel arwydd o ddiolch am gwblhau’r arolwg, bydd cyfle i chi roi eich enw i’r het am gyfle i ennill taleb bwyd o £50 o’r Vaynol Arms, Pentir.
Helpu
Mae gwaith pwysig wedi digwydd yn yr ystafell gymunedol a’r brif neuadd dros y flwyddyn a mwy diwethaf. Bwriad yr holiadur ydi helpu i siapio sut le fydd y neuadd i’r dyfodol.
Ar frig yr holiadur, mae’r trefnwyr yn gofyn am gymorth y gymuned leol: “Rydym angen eich cymorth efo’r cam nesaf yn y broses o uwchraddio’r neuadd.
“Er mwyn penderfynu pa adnoddau sydd eu hangen i wella’r neuadd, ac er mwyn gwneud cais am grantiau, rydym angen eich adborth.
“Trwy lenwi’r holiadur yma (ddylai gymryd tua 10 munud yn unig o’ch amser) a rhannu eich barn efo ni (boed dda neu ddrwg), mi fyddwch chi’n helpu ni i wneud y penderfyniadau cywir. Diolch yn fawr.
“Efo’n gilydd, dewch inni wneud ein neuadd bentref y gorau medrwn ni er mwyn inni i gyd gael ei mwynhau.“