Cyfnod prysur yn Neuadd Rhiwlas

Mae’r cyfnod clo wedi bod yn un go brysur ar gyfer Neuadd Bentref Rhiwlas.

Carwyn
gan Carwyn

Y peintars...The painters...

Posted by Neuadd Pentref Rhiwlas on Saturday, 13 June 2020

Wrth gwrs, mae’r Neuadd wedi bod ar gau oherwydd y clo mawr ac felly nid yw wedi bod ar gael ar gyfer gweithgareddau.

Ond pan fydd y drysau’n ail-agor byddwch yn gweld gwahaniaeth mawr gan fod pob ystafell wedi ei pheintio o’r newydd.

Diolch a ‘Croeso’

Mae pwyllgor y Neuadd yn hynod ddiolchgar i beintiwr proffesiynol o Rhiwlas, sef John Jones o Fro Rhiwen sydd wedi cyflawni gwaith gwerth chweil. 

Mae John wedi gweithio’n wirfoddol dros gyfnod o wythnosau ac mae delwedd tu fewn i’r adeilad wedi ei weddnewid yn llwyr. Yn ychwanegol, mae John hefyd wedi peintio arwydd ‘Croeso’ yn y cyntedd. 

Yn ystod yr wythnosau cyn y ‘cyfnod cau’ bu eraill yn paratoi’r adeilad ar gyfer y peintio ac mae’r pwyllgor hefyd am ddiolch yn arbennig i Dylan Griffith, Carl Walker, Jennifer Barnard a Gareth Williams am eu cymorth. 

WI-FI ar gael

Erbyn hyn mae modd cysylltu â band llydan WIFI yn y Neuadd Rhiwlas. 

Mae Pwyllgor Rheoli’r Neuadd yn awyddus i ddiolch i Phil a Mike Roberts o gwmni OPAL IT, Rhiwlas. 

Mae nhw wedi darparu a gosod y cyfarpar yn rhad ac am ddim i’r rhyngrwyd i ddefnyddwyr y Neuadd. Mae’r pentref yn ddiolchgar iawn iddynt am fod mor hael. 

Unwaith y bydd y cyfnod clo Covid-19 drosodd, a’r Neuadd yn ail-agor i’r cyhoedd, bydd modd cysylltu efo’r pwyllgor i gael cyfrinair mynediad i’r WIFI. 

Mae mwy o’r hanes a’r diweddararaf am Neuadd Bentref Rhiwlas ar dudalen Facebook y Neuadd https://www.facebook.com/pentref.rhiwlas.9