Holi barn am godi premiwm treth cyngor ar ail gartrefi ac eiddo gwag yng Ngwynedd

Daw hynny wedi i ymchwil ddangos bod niferoedd o dai haf y sir yn parhau i gynyddu

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae Cyngor Gwynedd yn awyddus i glywed barn trigolion y sir ynglŷn â’r cynnig i gynyddu’r Premiwm Treth Cyngor ar Ail Gartrefi ac Eiddo Gwag Hirdymor i hyd at 100% ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/22.

Ers mis Ebrill 2018, mae Cyngor Gwynedd wedi gosod premiwm treth cyngor o 50% ar eiddo o’r fath.

Fodd bynnag, mae gwaith ymchwil a gomisiynwyd gan Gabinet y Cyngor ar reoli’r defnydd o dai fel cartrefi gwyliau yn dangos fod niferoedd yn parhau i gynyddu.

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi’r grym i gynghorau i godi swm ychwanegol o hyd at 100% dros lefel safonol treth cyngor.

Bydd Cyngor Gwynedd yn penderfynu ar y polisi dros y misoedd nesaf ac maent yn awyddus i aelodau’r cyhoedd rannu eu barn ynglŷn â’r mater drwy lenwi holiadur byr.

“Tai gwyliau yn fater o argyfwng”

Yn ôl y Cynghorydd Ioan Thomas, Aelod Cabinet Cyllid Cyngor Gwynedd:

“Mae gwaith ymchwil diweddar yn dangos fod sefyllfa tai gwyliau yn fater o argyfwng a’i bod hi bron yn amhosib i lawer iawn o bobl Gwynedd gael troed ar y farchnad dai – boed hynny i brynu neu rentu cartref.

“Mewn gwirionedd, ar hyn o bryd, mae prisiau tai uchel oherwydd y galw am unedau gwyliau ac ail gartrefi yn gwthio prisiau ymhell y tu hwnt i afael pobl leol mewn llawer iawn o gymunedau Gwynedd.

“Ers Ebrill 2018, mae’r Cyngor wedi codi 50% yn ychwanegol o dreth cyngor ar berchnogion ail gartrefi a thai gwag, gyda’r arian yma yn cael ei glustnodi ar gyfer cynlluniau tai sy’n cefnogi pobl Gwynedd i gael mynediad i dai addas yn ein cymunedau..

“Rydym yn awyddus i glywed barn y cyhoedd ar y syniad o godi 100% o bremiwm ail dai ar ail gartrefi ac eiddo sydd wedi bod yn wag am gyfnod o amser.”

Mae modd rhannu eich barn fan hyn neu am gopi papur gallwch ffonio 01766 771000.

Mae’r cyfnod ymgynghori ar agor tan Chwefror 1, 2021.