Diystyru tri oedd wedi bod dan ystyriaeth fel rhan o ymchwiliad Frankie

Heddlu yn dal i fod eisiau clywed am unrhyw wybodaeth allai helpu gyda’u hymchwiliad i ddiflaniad  Frantisek “Frankie” Morris

Carwyn
gan Carwyn

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cyhoeddi diweddariad heddiw yn cadarnhau fod y tri unigolyn a ryddhawyd o dan ymchwiliad mewn perthynas â diflaniad Frantisek “Frankie” Morris bellach wedi’u diystyru o’u hymchwiliad.

Mae’r dyn 18 oed o Landegfan, Ynys Môn wedi bod ar goll ers 2 Mai ond mae’r llu yn awyddus i glywed gan unrhyw un sydd â gwybodaeth allai helpu gyda’r ymchwiliad.

Apelio am wybodaeth

“Mae hi bellach yn bedair wythnos ers i Frankie gael ei gweld diwethaf,” meddai’r Ditectif Brif Arolygydd Lee Boycott.

“Yn amlwg mae ei deulu mewn gofid mawr ac rwyf yn parhau i apelio ar unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth i siarad â ni. Efallai fod y wybodaeth sydd gennych yn fach ond gall fod y darn coll yn yr ymchwiliad. Ffoniwch er mwyn Frankie a’i deulu.”

Gwelwyd Frankie ddiwethaf ger tafarn y Faenol ym Mhentir, am 1.12pm ddydd Sul, 2 Mai 2.

Mae’r llu yn ddiolchgar i’r cyhoedd am bob manylyn sydd wedi eu cyrraedd hyd yma. Ond os oes gennych unrhyw wybodaeth bellach allai fod o gymorth, cysylltwch â’r tîm ymchwilio yn uniongyrchol yma.