Arestio tri wrth ymchwilio diflaniad Frankie

Heddlu yn parhau i apelio am wybodaeth am ddiflaniad y gŵr deunaw oed

Carwyn
gan Carwyn
EC111DC2-9037-40AF-B781

Mae ditectifs o Heddlu Gogledd Cymru sy’n ymchwilio i leoliad Frantisek “Frankie” Morris, o Landegfan, Ynys Môn, wedi arestio dyn ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru’n beryglus.

Mae dyn a dynes hefyd wedi eu harestio ar amheuaeth o wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Mewn sylw ar Facebook, meddai’r Prif Arolygydd Owain Llewelyn: “Ar ôl ein hapêl yn gynharach heddiw, gallaf gadarnhau ein bod wedi siarad â’r beiciwr yn y delweddau teledu cylch cyfyng ac nid ydynt bellach yn rhan o’n hymchwiliad.

“Hoffwn yn awr wneud apêl bellach i yrwyr y ceir yn y delweddau atodedig ddod ymlaen, oherwydd efallai y bydd ganddynt wybodaeth hanfodol a fydd yn ein cynorthwyo gyda’n hymholiadau.

“Oherwydd yr ymchwiliad parhaus, bydd y ffordd o Bont Felin, Pentir sy’n mynd tuag at Waen Wen ar gau nes bydd rhybudd pellach. Cynghorir modurwyr a’r cyhoedd i osgoi’r ardal a defnyddio llwybrau amgen.”

Os gallwch chi gynorthwyo, mae’r llu yn gofyn i chi gysylltu gyda nhw ar https://mipp.police.uk/operation/60NWP19A03-PO1.

Mewn rhybudd ar Facebook, mae Heddlu Gogledd Cymru yn nodi:

“Gan fod yr achos hwn bellach yn ‘weithredol’ o ran cyfraith y cyfryngau, gofynnir yn barchus i aelodau’r cyhoedd nodi: PEIDIWCH â gwneud sylwadau neu bostio unrhyw beth a fyddai’n cael ei ystyried yn niweidiol i unrhyw achos llys posib.
“Rydym yn deall bod hwn yn ddigwyddiad emosiynol, ond pe baech chi’n postio unrhyw fanylion personol am unrhyw berson, neu unrhyw beth a fyddai’n adnabod pobl, neu’n awgrymu euogrwydd, efallai y cewch eich canfod mewn dirmyg llys, sy’n cario dedfryd o garchar. Rydym yn gofyn hyn fel nad ydym yn cael ein rhwystro yn ein hymchwiliadau. Diolch.”