Y cynllun grant fyddai’n rhoi bywyd newydd i gwrt tennis Parc Meurig

“Mae ‘na gyfle da yma i greu rhywbeth gwerthfawr iawn.”

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae cynllun ‘Eich Cymuned Eich Dewis’ yn “rhoi’r penderfyniad yn nwylo’r bobol” o ran pwy fydd yn derbyn arian a atafaelwyd o droseddwyr yn y Gogledd.

Mae hyd at £2,500 ar gael ar gyfer grwpiau ym mhob un o’r chwe sir yng Ngogledd Cymru, a thri grant o hyd at £5,000 ar gyfer trefnwyr sefydliadau sy’n gweithio mewn tair sir neu fwy.

Nod y cynllun, sydd wedi ei drefnu gan y Comisiynydd Heddlu a Throsedd ar y cyd â Heddlu Gogledd Cymru ac Ymddiriedolaeth Heddlu Gogledd Cymru a’r Gymuned (PACT) yw i “droi arian drwg yn dda”.

Erbyn hyn, mae’r prosiectau cymunedol sydd wedi cyrraedd y rhestr fer wedi eu cyhoeddi ac mae modd i’r cyhoedd bleidleisio dros eu henillwyr.

“Darparu adnoddau i’r gymuned leol”

Yn eu plith, mae cais i roi bywyd newydd i gwrt tennis Parc Meurig.

“Nes i ddysgu sut i chwarae tennis ym Mharc Meurig fy hun yn yr 80a’u felly mae gen i atgofion melys o chwarae lawr yna,” meddai Tom Simone, brodor o’r pentref.

“Roedd yna ddau gwrt tennis a lle bowlio, reit wrth ymyl yr afon Ogwen – lle trawiadol, braf iawn.

“Mae ‘na lot o bobl yn ardal Bethesda sy’n cofio ardal Parc Meurig fel oedd o – yn le neis, braf lle mae pobol yn gallu treulio amser yn mwynhau chware tennis.

“Felly dyna ydi’r bwriad, i drïo cael o’n ôl i sut oedd o… i ddarparu adnodd i’r gymuned lle mae pobol yn gallu cael hwyl.”

“Mae ‘na gyfle da yma i greu rhywbeth gwerthfawr iawn.”

“Da ni’n gobeithio rhoi gwersi hyfforddiant ymlaen felly fydd y plant yn gallu manteisio o hynny ond mae pawb o bob oedran yn gallu chwarae tennis – felly fydd o i bawb i fod yn onest!

“Fi fy hun – dwi’n hollol obsessed hefo tennis! Dwi’n chwarae ers fy mod i’n ifanc a dydw i ddim yn un sy’n emosiynol iawn ond pan nath Andy Murry ennill Wimbledon – oni’n crio!”

“Mae Bethesda llawn egni, llawn cymeriadau a phobol sy’n edrych ar ôl ei gilydd a chael gwneud gwahanol brosiectau,” meddai.

“Mae ‘na gyfle da yma i greu rhywbeth gwerthfawr iawn.”

“Troi arian drwg yn dda”

Dyma wythfed flwyddyn cynhelir y cynllun ac yn ystod y cyfnod hwn, dyfarnwyd cyfanswm o £310,000 i 106 o brosiectau amrywiol.

“Rwy’n cael boddhad arbennig bod rhan o’r cyllid yn dod o’r elw o droseddu fel bod arian yn cael ei dynnu allan o bocedi troseddwyr a’u helw anghyfreithlon gan y llysoedd ac yn cael ei roi’n ôl i fentrau cymunedol,” meddai’r Prif Gwnstabl Cynorthwyol, Sacha Hatchett.

“Mae’n troi arian drwg yn dda ac mae’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol gan mai pobl leol sy’n adnabod ac yn deall eu materion lleol a sut i’w datrys.

“Mae plismona’n rhan o’r gymuned ac mae’r gymuned yn rhan o blismona ac mae’r cynllun hwn yn ffordd gadarnhaol o feithrin ymddiriedaeth mewn plismona.

“Mae’n wych gweld y berthynas hon yn ffynnu oherwydd heb y gymuned ni fyddwn yn gwybod beth sy’n digwydd, heb y gymuned ni fyddem yn cael cudd-wybodaeth, ac ni fyddwn yn datrys troseddau.”

Mae modd darllen am yr holl brosiectau sydd ar y rhestr fer, a phleidleisio, drwy glicio’r ddolen hon.