Ail-agor Pont Sarnau

Gwaith cynnal wedi ei gwblhau

Yn dilyn cyfnod dros-dro o fod ar gau, mae Cyngor Gwynedd wedi cadarnhau fod Pont Sarnau wedi ail-agor heddiw.

Roedd gwaharddiad wedi ei osod ar ddefnyddio’r bont yn ddiweddar oherwydd pryder am y strwythur. Gyda gwaith wedi ei gynnal dros yr wythnos diwethaf, cyhoeddwyd fod y bont boblogaidd wedi gallu ail-agor fore Llun.

Bydd hyn yn newyddion da i lawer yn Nyffryn Ogwen sy’n defnyddio’r llwybr i groesi Afon Ogwen.