Pont Sarnau ar gau dros-dro

Gwaith angenrheidiol i gryfhau’r strwythur

Carwyn
gan Carwyn

Mae Cyngor Gwynedd wedi datgan fod pont droed Sarnau wedi cau am y tro tra bod gwaith angenrheidiol yn cael ei gynnal i gryfhau’r strwythur.

“Diogelwch y cyhoedd”

Mae’r bont ar gau a rhybudd wedi ei gosod yn gwahardd defnydd dros-dro.

Noda’r rhybudd sydd wedi ei osod ar y bont: “Mae angen y gwaharddiad er diogelwch y cyhoedd oherwydd perygl i’r bont ddymchwel yn sydyn a hefyd i hwyluso gwaith trwsio argyfwng os mae’r cyflwr yr afon yn caniatáu.”

Mae’n debyg fod archwiliad diweddar wedi darganfod fod llif y dŵr wedi tanseilio’r pier yn yr afon sy’n cynnal y bont.

Mae’r caniatâd yn ei le gan Cyfoeth Naturiol Cymru i’r gwaith ddechrau ond bydd rhaid sicrhau fod yr amgylchiadau yn ddiogel i weithwyr gwblhau’r gwelliannau.

Llwybr amgen

Mae’r llwybr yma yn un poblogaidd iawn yn lleol ac yn gyswllt pwysig rhwng Bethesda ac ardal Goed Y Parc.

Nid oes ffordd amgen hwylus iawn gerllaw, ond tra bydd y gwaith angenrheidiol yn digwydd, mae’r Cyngor yn cynghori cerddwyr i ddefnyddio ‘Pont yr Inn’ i groesi Afon Ogwen.

Bydd Cyngor Gwynedd yn parhau i weithio gyda’u peirianwyr i gael datrysiad buan a diogel.