Llwyddiant digwyddiad beic

Cyfle i rannu’ch syniadau

gan Tom Simone

Mynychodd mwy na 50 o bobl ddigwyddiad yn hyrwyddo beiciau trydan., a gynhaliwyd ddydd Sul yn Llys Dafydd, Bethesda.

Trefnwyd y digwyddiad gennyf i Tom Simone, Gweithiwr Llesiant a’r Amgylchedd,  ar gyfer prosiect Dyffryn Gwyrdd sy’n cael ei redeg gan Bartneriaeth Ogwen, wedi’i ariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri.

Nodau’r digwyddiad oedd:

1. Darparu gwybodaeth am feiciau trydan a’u retro-osod.

2. I bobl rwydweithio.

3. Ymgynghori â’r cyhoedd ar y ffordd orau i hyrwyddo beicio yn Nyffryn Ogwen, gyda’r nod o fod o fudd i’r amgylchedd, yn ogystal ag iechyd a lles pobl.

Os hoffech gyfrannu eich meddyliau a’ch syniadau, llenwch yr holiadur byr hwn.

https://forms.gle/yYYBY2uAY4T2Jqzn6

Yn dilyn yr ymgynghoriad hwn gyda’r cyhoedd, amrywiol arbenigwyr, sefydliadau a busnesau, byddaf yn ysgrifennu Cynllun Beicio ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Gallwch anfon e-bost ataf – tom@ogwen.org – os hoffech gael mwy o wybodaeth.