“Mae ail gartrefi’n rhwygo calon allan o’n pentrefi ni”, meddai dirprwy arweinydd Cyngor Gwynedd

Galw am fwy o hawliau i awdurdodau lleol reoli ail gartrefi

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Dafydd Meurig Dirprwy Arweinydd Cyngor Gwynedd

Mae Dafydd Meurig, dirprwy arweinydd Cyngor Gwynedd, wedi galw am fwy o hawliau i awdurdodau lleol reoli ail gartrefi.

Daw hyn wedi iddo weld hysbyseb ar lein oedd yn disgrifio tŷ yn Llanllechid fel “weekend retreat”.

Yn ôl y Cynghorydd, mae’r enghraifft yma yn un o ddegau o hysbysebion tebyg sydd wedi ei anelu at bobol sydd am brynu ail gartrefi.

“Mae ail gartrefi’n rhwygo calon allan o’n pentrefi ni,” meddai Dafydd Meurig wrth golwg360.

“Yn ddelfrydol byddai’r cyngor yn dymuno gallu gorfodi pobol i wneud cais cynllunio i droi tŷ o fod yn gartref cyntaf i fod yn ail gartref.

“Byddai hyn yn galluogi i ni fel cyngor i reoli’r niferoedd mewn gwanhaol ardaloedd do’r sir – ond does dim byd o fewn y drefn cynllunio sy’n rhwystro unrhyw un i brynu tŷ ai ddefnyddio fel ail gartref.

“Mae’n sgwrs rydym ni wedi ei gael gyda’r Llywodraeth ers blynyddoedd – ond dwi ddim yn teimlo ei bod nhw’n gwybod faint o broblem ydy hyn yng Ngwynedd a siroedd y gorllewin.”

Mae ystadegau yn dangos i 38% o’r tai a werthwyd yng Ngwynedd rhwng Mawrth 2019 ac Ebrill 2020 gael eu gwerthu fel ail gartrefi.

Mae’r ffigurau gan Awdurdod Cyllid Cymru hefyd yn dangos fod mwy o ail gartrefi wedi’u prynu yng Ngwynedd nag unrhyw le arall yng Nghymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Er fod Cyngor Gwynedd yn codi 50% yn fwy o dreth cyngor ar ail gartrefi mae modd i berchnogion restri ail gartrefi fel busnesau er mwyn osgoi talu’r dreth.

‘Anfoesol’

Disgrifiodd y Cynghorydd y sefyllfa fel un ‘”anfoesol”.

“Mae’r niferoedd o ail gartrefi yn uchel ofnadwy yn y sir,” meddai.

“Mae’n hollol anfoesol fod yna bobol sydd ag ail gartrefi yn y sir tra bod pobol leol methu dod o hyd i dai.”

“Mi fydd rhaid i rywbeth ddigwydd, ond dwi ddim yn rhagweld y Llywodraeth yma yn neud dim.”

Mae sawl tŷ ar y farchnad yng Ngwynedd ar hyn o bryd sydd yn fwy na £1m, gyda rhai tai hefyd wedi eu rhestru am hyd at £3m.

Yn ôl gwefan arwerthu ar lein pris cyfartalog tŷ yng Ngwynedd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf oedd £185,806.

Pris cyfartalog tŷ yng Nghymru yn ystod yr un cyfnod oedd £161,719.

Mae cynghorwyr yn ne-orllewin Cymru hefyd wedi galw am reoleiddio’r farchnad ail gartrefi.