Ffens cae synthetig Plas Ffrancon wedi ei ddifrodi

Pobol wedi torri mewn i’r cae’n anghyfreithlon

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae criw o unigolion wedi torri mewn i gae synthetig Plas Ffrancon yn anghyfreithlon gan ddifrodi ffens.

Mae gwaith yn cael ei wneud ar y cae gan gontractwyr cyn iddo gael ei drosglwyddo’n ôl i Byw’n Iach Gwynedd, sy’n gyfrifol am ganolfannau hamdden Gwynedd.

“Rydym yn siomedig iawn o orfod adrodd fod difrod a thresmasu wedi digwydd ar ein cae ym Mhlas Ffrancon,” meddai datganiad gan Byw’n Iach Gwynedd.

“Rydym wedi cysylltu â’r heddlu ac yn paratoi tystiolaeth CCTV o’r digwyddiad i rannu gyda nhw.”

Dywedodd y Cynghorydd Sir lleol, Rheinallt Puw: “Mae’n bechod gan ein bod ni mor agos i orffen y cae, tydi o heb gael ei roi i Byw’n Iach yn swyddogol eto.

“Dw i ddim yn rhy bryderus am y sefyllfa, ond mae angen rhybuddio pobol i beidio defnyddio’r cae nes mae o wedi cael ei orffen.”

Mae Byw’n Iach Gwynedd wedi gofyn i drigolion lleol sydd â gwybodaeth am y difrod e bostio cyswllt@bywniach.cymru.