Cadarnhau achos o’r coronafeirws yn Ysgol Gynradd Llanllechid

Disgyblion swigen blynyddoedd 4, 5 a 6 yn hunanynysu

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae Cyngor Gwynedd wedi cadarnhau bod disgybl o Ysgol Gynradd Llanllechid wedi profi’n bositif i’r coronafeirws.

O ganlyniad, mae disgyblion swigen blynyddoedd 4, 5 a 6 yn ogystal â staff perthnasol sydd â chysylltiadau i’r unigolyn yn hunan ynysu am 14 diwrnod.

Datganiad

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd eu bod yn dilyn cyngor Iechyd Cyhoeddus Cymru a bod yr ysgol wedi ymateb mor gyflym â phosib i ddarparu gwybodaeth i deuluoedd.

Yn ôl y datganiad: “Rydym yn anfon ein dymuniadau gorau i’r disgybl ac yn annog unrhyw un fydd yn derbyn galwad gan y gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu i ddilyn y cyngor fydd yn cael ei ddarparu er diogelwch eu teulu a’u cymuned leol.”

Mae’r Cyngor yn annog unrhyw berson sy’n datblygu symptomau i drefnu prawf ac i hunanynysu.

Gallwch wneud cais am brawf fan hyn neu drwy ffonio 119.