Dywed cynghorydd o Fethesda fod ei beic trydan yn ‘game changer’ ac mae’n ei weld fel rhan allweddol o ddyfodol hapusach a gwyrddach.
Mae hyn yn cefnogi menter Partneriaeth Ogwen i annog mwy o bobl i feicio yn Nyffryn Ogwen, sy’n cael ei redeg trwy brosiect Dyffryn Gwyrdd.
Prynodd Catrin Wager, Ward Menai, ei beic trwy’r Cynllun Beicio i’r Gwaith. Mae hi bellach yn ei ddefnyddio i gymudo, ac yn dweud bod hyn wedi cael nifer o effeithiau cadarnhaol.
Meddai: “Dwi’n gweithio fel cynghorydd sir, felly dwi’n gwario llawer iawn o amser mewn cyfarfodydd. Es i yn segur iawn, sydd ddim yn dda o ran iechyd a llesiant.
“Ro’n i ’di meddwl trio mynd ar fy meic yn fwy aml, ond i rywun sydd ddim yn ffit iawn, roedd y syniad o ddechrau allan yn eithaf ‘daunting’.
“Roedd jest dod yn ȏl o Fangor yn heriol, gyda’r allt.
“Nes i ffeindio allan bod ’na ffordd o gael beic trwy’r ‘Cycle to Work Scheme’, felly es i amdani a dwi’n meddwl bod o’n deg i ddeud bod beic trydan yn ‘game changer’ llwyr yn fy mywyd i.
“Dwi’n cofio pigo’r beic trydan i fyny o Fangor a reidio fo adre. Y bore wedyn, nes i reidio i Gaernarfon.
“Mae’n cymryd awr i deithio i Gaernarfon, i gymharu hefo hanner awr mewn car, felly dim llawer mwy.
“Mae hyn yn golygu ‘mod i’n defnyddio llai o betrol, felly mae’n dda i’r amgylchedd, yn ogystal ag iechyd corfforol ac iechyd meddwl.
“Mae’na jest pleser hefyd; y bywyd gwych mae rhywun yn gweld… ‘dw i wedi gweld gwiwer goch, bob math o adar…
“I mi, ‘dw i’n gweld dyfodol lle dwi’n hapus gyda beic trydan a char cymunedol i fynd i siopa.
“Dw i’n meddwl bydd hynna’n fyd llawer hapusach a brafiach.”
Bydd Tom Simone, sy’n cael ei gyflogi fel Gweithiwr Llesiant a’r Amgylchedd ar gyfer Dyffryn Gwyrdd, yn cynnal diwrnod agored beiciau trydan yn Llys Dafydd, Bethesda yn y dyfodol agos.
Gallwch ddarganfod mwy am ba feiciau trydan a Phartneriaeth Ogwen yn https://www.partneriaethogwen.cymru/ a’u tudalen Facebook.