Gŵyl Gwenllïan 2024

Penwythnos llawn gweithgareddau diwylliannol i ddathlu merched y Carneddau.

Robyn Morgan Meredydd
gan Robyn Morgan Meredydd
IMG-20240608-WA0044

Gŵyl Gwenllïan 2024

Bu Partneriaeth Ogwen unwaith eto yn cynnal Gŵyl Gwenllïan fel dathliad o ferched y Carneddau rhwng 7fed a 9fed Mehefin 2024. Cafwyd amrywiaeth eang o ddigwyddiadau a gweithgareddau drwy gydol y penwythnos, a hoffem ddiolch i’n partneriaid a’n noddwyr niferus am wneud y penwythnos yn llwyddiant mawr!

Ysgrifennu Creadigol efo Buddug Roberts

I gychwyn dathliadau penwythnos Gŵyl Gwenllïan, mi wnaethom wahodd llenor lleol Buddug Roberts i arwain gweithdy ysgrifennu creadigol gyda disgyblion blwyddyn 8 Ysgol Dyffryn Ogwen.

Ysgrifennodd y disgyblion gerddi a haikus am ardal Dyffryn Ogwen; mae’n bendant fod gennym lenorion ifanc yn ein mysg!

Diolch i Lenyddiaeth Cymru am y gefnogaeth a diolch arbennig i Buddug a’r disgyblion – gwaith gwych gan bawb!

Gweithgareddau Angie Roberts / cinio Hwb Ogwen

Ymunodd yr awdur plant adnabyddus Angie Roberts â ni yng Nghanolfan Cefnfaes fore Sadwrn ar gyfer gweithgaredd teuluol llawn hwyl yn seiliedig ar ei llyfrau. Cafodd y plant gyfle i greu chwibanau allan o afalau a chwarae ynghyd â recordiad o Sosban Fach wedi ei pherfformio yn gyfan gwbl gyda ffrwythau a llysiau. Cafodd y plant gyfle hefyd i fwynhau darlleniad o lyfr diweddaraf Angie “Arwana Swtan a’r Sgodyn Od” gan Linda Brown.

Taith Gerdded Carneddau

Brynhawn Sadwrn, aeth Sophie Davies o Bartneriaeth Tirwedd y Carneddau gyda thaith dywys i fyny Moel Faban i siarad am y gwaith y mae’r Bartneriaeth wedi bod yn ei wneud, megis sut mae’r gwaith clirio llystyfiant diweddar ac ymchwil archeolegol wedi helpu i arwain at well dealltwriaeth o sut mae defnyddiwyd y Carneddau. Siaradodd hefyd am fioamrywiaeth yr ardal unigryw hon. Diolch yn fawr i Rob Havelock am wirfoddoli i dywys y daith gerdded. Enillodd Rob ei gymhwyster Arweinydd Tir Isel trwy gyllid Partneriaeth Tirwedd y Carneddau, ac roedd yn falch o’r cyfle i wirfoddoli ei amser.

Llymaid a Llên

Cafwyd noson braf yn Y Fic ar gyfer ein digwyddiad Llymaid a Llên. Cafwyd mewnwelediad da i broses ysgrifennu Sioned Erin Hughes wrth i Meleri Davies ei holi am ei chyfrol O’r Rhuddin. Trafodwyd ysbrydoliaeth, salwch, a’r argyfwng hinsawdd. Roedd gonestrwydd Erin yn chwa o awyr iach a bu ei chyngor hi’n hwb i sawl un o’r ysgrifenwyr oedd yn gwrando.

I ddilyn roedd yn bleser clywed darlleniadau gan lenorion lleol, a rhai oedd wedi teithio draw, fel rhan o’r Meic Agored wedi ei lywio gan Casia Wiliam. Yn addas iawn fe glywsom gerddi wedi eu hysbrydoli gan y Dywysoges Gwenllïan, a rhai am y dirwedd leol. Cawsom hyd yn oed gipolwg ar benodau cyntaf nofel gan un cyfrannydd. Diolch i bawb ddaeth i wrando a chymryd rhan.

Sesiwn Celf efo Elen Williams 

Er gwaethaf y tywydd a gorfod symud y digwyddiad i mewn oherwydd y glaw, mwynhaodd pawb y sesiwn gelf a gynhaliwyd gan Elen Williams fore Sul. Arweiniodd Elen y grŵp i wneud arddangosfeydd blodau papur a llyfrau nodiadau, yn ogystal â chynnig heriau lluniadu creadigol. Diolch yn fawr i Bartneriaeth Tirwedd y Carneddau am ariannu’r digwyddiad.

Arddangosfa Celf CARN

Roedd hi’n bleser cael gweld ffrwyth cydweithied rhwng Partneriaeth Ogwen a CARN yn arddangosfa o waith merched y carneddau yn ystafell gymunedol Canolfan Cefnfaes ar gyfer Gŵyl Gwenllïan penwythnos 7 – 9 o Fehefin ac yn parhau hyd at ddiwedd mis Mehefin. Roedd ymateb da wedi’i dderbyn gyda gwaith amrywiol gan artistiaid ifanc dibrofiad i rai profiadol a rhai o enwogion Cymru fel Ann Catrin Evans a Rhiannon Gwyn, oedd yn arddangos amrywiaeth o waith a thalent sydd ar gael yn y Dyffryn.

Fuodd dathliad o’r arddangosfa ar bnawn Sul y 9fedo  Fehefin gyda sgwrs gan brosiect Ail-fframio gan Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru/ Castell Penrhyn, cydlynydd y prosiect Nici Beech ac artistiaid y prosiect; Anna Pritchard, Jŵls Williams a Rhiannon Gwyn. Roedd yn braf cael croesawu rhai o’r artistiaid oedd yn cymryd rhan a chael clywed am y prosiect diddorol.

Mae hwn yn gychwyn ar berthynas hirdymor rhwng CARN a Phartneriaeth Ogwen, cadwch lygaid allan am ragor i ddod.
Rhestr o artistiaid yn arddangos:
Ann Catrin Evans // Anna Pritchard // Caroline Schofield // Catrin Menai // Ceri Thomas // Claire Henriette // Corrina Zarach // Efa Hardy-Griffith // Elen Williams // Jên Morris // Karen Williams // Margaret Jones // Menna Tomos // Rebecca F Hardy // Rhiannon Gwyn

Dweud eich dweud