Lleisiau Lleol Dyffryn Ogwen – cofnod llafar o hanes yr ardal

Prosiect hanes llafar yn casglu a dathlu Dyffryn Ogwen

Robyn Morgan Meredydd
gan Robyn Morgan Meredydd

Sefydlwyd Lleisiau Lleol Dyffryn Ogwen yn 2023, fel rhan o gydweithrediad rhwng Partneriaeth Ogwen a Phartneriaeth Tirwedd y Carneddau.

Wedi’i ddatblygu ochr yn ochr â ‘Lleisiau Carneddau’, mae Lleisiau Lleol Dyffryn Ogwen yn gasgliad cynyddol o hanes llafar a gasglwyd gan wirfoddolwyr trwy gyfres o gyfweliadau sain a fideo. Mae ein casgliad hefyd yn cynnwys darlithoedd, sgyrsiau a thrafodaethau amrywiol sy’n berthnasol i Ddyffryn Ogwen.

Mae gennym grŵp bach o wirfoddolwyr gwych sydd wedi dechrau cynnal cyfweliadau. Rydym wedi penderfynu creu gofod ar gyfer Lleisiau Lleol Dyffryn Ogwen o dan Gasgliad y Werin, sy’n rhan o Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Dyma’r ddolen i’n safle ar y wefan.

Mae yna gyfweliadau hyfryd yno yn barod – byddwn yn eich annog i wrando. Mae Owie Williams yn sôn am ei atgofion o gerdded i fyny i weld yr awyren Almaeneg ddaeth i lawr yn Gerlan yn ystod y Rhyfel a’r hyn a ddigwyddodd! Dafydd Jones yn sôn am dyfu i fyny ar waelod y Stryd Fawr, chwarae yn y “gas works” a gwrando ar y milwyr yn ymarfer yn y Drill Hall.

Rydym hefyd yn y broses o ychwanegu recordiadau o ddarlithoedd a digwyddiadau y mae Partneriaeth Ogwen wedi’u cynnal dros y blynyddoedd.

Gobeithiwn ddefnyddio’r llwyfan yma i gyfeirio pobl at wefannau ac adnoddau eraill sydd ar gael trwy ddarparu dolenni yn yr adran “Amdanom Ni”.

Os gallwch feddwl am unrhyw adnoddau eraill y gallwn eu cynnwys neu os byddech chi’n hoffi mwy o wybodaeth am y prosiect, plîs cysylltwch â gofod@ogwen.org.