Gŵyl Gwenllian 2024

Bydd Partneriaeth Ogwen yn cynnal Gŵyl Gwenllian eto eleni i ddathlu merched y Carneddau.

Abbie Jones
gan Abbie Jones

Eto eleni, bydd Gŵyl Gwenllian yn cael ei chynnal yn Nyffryn Ogwen i ddathlu creadigrwydd merched.

Bydd ystod eang o weithgareddau yn cynnwys sesiynau llenyddol a chelf a chrefft. Bydd manylion llawn bob digwyddiad unigol yn cael eu rhannu ar dudalen Facebook Gŵyl Gwenllian 2024 ac ar wefan www.partneriaethogwen.org.

Ymunwch â ni i ddathlu merched y Carneddau wrth gofio am y dywysoges Gwenllian ar drothwy diwrnod ei chofio ganol Mehefin. Merch Llywelyn ap Gruffudd (Llywelyn ein Llyw Olaf) oedd Gwenllian, sef tywysog olaf Cymru cyn goresgyniad Edward y Cyntaf, Brenin Lloegr.

Yn dilyn llofruddio Llywelyn a Dafydd, cafodd Gwenllian ei herwgipio yn fabi a’i hanfon i briordy ‘Gilbertine’ yn Sempringham. Cadwyd hi yno am weddill ei hoes rhag iddi briodi a magu mab i hawlio gorsedd brenhinol Cymru.

Cafodd Gwenllian ei chadw yn y lleiandy hyd at ei marwolaeth yn 1337 yn 54 oed. Bu farw heb wybod ei hanes ei hun. Mae’r 12fed o Fehefin yn cael ei nodi bob blwyddyn er cof amdani.

Gallwch lawr lwytho rhaglen yr ŵyl ar y dudalen hon. Croeso cynnes i bawb!